Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 3) 2007 (ynghylch Plant Hawdd eu Niweidio a Thlodi Plant)

Y Gorchymyn a gafodd ei osod ar 9 Gorffennaf 2007 (dogfen PDF)

GWNEIR GORCHMYNION CYMHWYSEDD DEDDFWRIAETHOL YN SAESNEG YN UNIG. CYFIEITHIAD I'R GYMRAEG ER GWYBODAETH YW HWN AC NID OES IDDO RYM CYFREITHIOL.

LCOs ARE MADE IN ENGLISH ONLY. THIS IS A TRANSLATION INTO WELSH FOR INFORMATION AND IT HAS NO LEGAL EFFECT.


Geiriad y Gorchymyn Arfaethedig:

Yn unol ag adran 95(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(a) mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi ei osod gerbron a'i gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dau D.’r Senedd.

Gan hynny, mae'n bleser gan Ei Mawrhydi, yn unol ag adran 95(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ôl a chyda chyngor ei Chyfrin Gyngor, orchymyn fel a ganlyn:-

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 3) 2007 a daw i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr Deddf 2006” (the 2006 Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Diwygiadau i Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

2.—(1) Diwygir Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf 2006 yn unol â'r erthygl hon.

(2) Ym maes 15 (lles cymdeithasol), mewnosoder—

Mater 15.1

Diogelu plant rhag niwed ac esgeulustod.

Mater 15.2

Mabwysiadu a maethu.

Mater 15.3

Gofal cymdeithasol i blant a'r personau sy'n gofalu amdanynt.

Mater 15.4

Gofal cymdeithasol i bobl ifanc.

Mater 15.5

Cydweithrediad rhwng personau sy'n arfer swyddogaethau neu sy'n ymgymryd â gweithgareddau sy'n ymwneud â llesiant plant neu bobl ifanc a threfniadau i sicrhau bod swyddogaethau yn cael eu cyflawni mewn perthynas â'r angen i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc.

Mater 15.6

Cynllunio strategol gan awdurdodau lleol ar gyfer cyflawni swyddogaethau sy'n ymwneud â llesiant plant neu bobl ifanc.

Mater 15.7

Parhau, diddymu neu greu swydd neu gorff y mae a wnelo â diogelu a hyrwyddo llesiant plant neu bobl ifanc, a rhoi swyddogaethau i swydd neu gorff o'r fath, ac yn benodol—

(a) adolygu'r modd y mae unrhyw berson yn arfer swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'u llesiant yn effeithio ar blant neu bobl ifanc,

(b) adolygu a monitro trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion a sylwadau a wnaed gan blant neu bobl ifanc, neu ar eu rhan, mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau a ddarparwyd iddynt gan bersonau â swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'u llesiant neu gan bersonau sy'n darparu gofal cymdeithasol iddynt,

(c) archwilio achosion plant penodol neu bobl ifanc penodol,

(d) ystyried unrhyw fater sy'n effeithio ar lesiant plant neu bobl ifanc, a gwneud sylwadau amdano.

Mater 15.8

Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng plant neu bobl ifanc mewn perthynas â'u llesiant.

Dehongli'r maes hwn

Yn y maes hwn—

ystyr awdurdodau lleol” (local authorities”) yw cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru;

mae gofal cymdeithasol” (social care”) yn cynnwys gofal preswyl, gofal dibreswyl, cefnogaeth, cymorth ariannol neu unrhyw gymorth arall, cyngor neu gwnsela a ddarperir gan unrhyw berson mewn cysylltiad â llesiant unrhyw berson;

ystyr llesiant” (well-being”), mewn perthynas ag unigolion, yw llesiant i'r graddau y mae'n ymwneud ag unrhyw un o'r canlynol—

(a) llesiant corfforol ac emosiynol a llesiant iechyd meddwl ;

(b) diogelwch rhag niwed ac esgeulustod ,

(c) addysg, hyfforddiant a hamdden,

(d) y cyfraniad at y gymdeithas a wneir ganddynt,

(e) llesiant cymdeithasol ac economaidd;

(f) sicrhau eu hawliau.

ystyr plant” (children”) yw personau nad ydynt wedi cyrraedd 18 oed;

ystyr pobl ifanc” (young persons”) yw

(a) personau sydd wedi cyrraedd 18 oed ond nid 24 oed,

(b) personau sydd wedi cyrraedd 24 oed ac sy'n parhau â rhaglen addysg neu hyfforddiant yr oeddent yn ymgymryd â hi yn 21 oed."

3.—(1) Diwygir y tabl ar ddiwedd Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf 2006 (materion a eithrir) yn unol â'r erthygl hon.

(2) Ar ôl mater 18 a eithrir mewnosoder y rhesi canlynol—

"

19. Cymorth i blant. Materion 15.1, 15.2, 15.3, 15.4, 15.5, 15.7, 15.8

20. Cronfeydd ymddiriedolaeth plant, ac eithrio taliadau i mewn i gronfeydd o'r fath gan—

(a) cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, neu

(b) Gweinidogion Cymru.

Materion 15.1, 15.2, 15.3, 15.4, 15.5, 15.7, 15.8
21. Credydau treth. Materion 15.1, 15.2, 15.3, 15.4, 15.5, 15.7, 15.8
22. Budd-dal plant a lwfans gwarcheidwad. Mater 15.1, 15.2, 15.3, 15.4, 15.5, 15.7, 15.8
23. Nawdd cymdeithasol. Materion 15.1, 15.2, 15.3, 15.4, 15.5, 15.7, 15.8
24. Cronfeydd byw'n annibynnol. Materion 15.1, 15.2, 15.3, 15.4, 15.5, 15.7, 15.8
25. Motability. Materion 15.1, 15.2, 15.3, 15.4, 15.5, 15.7, 15.8
26. Mabwysiadu rhwng gwledydd, ac eithrio asiantaethau mabwysiadu a'u swyddogaethau, a swyddogaethau'r Awdurdod Canolog” o dan Gonfensiwn yr Hâg ar Amddiffyn Plant a Chydweithredu mewn cysylltiad â Mabwysiadu rhwng Gwledydd. Materion 15.2, 15.7
27. Y Comisiynydd Plant a sefydlwyd o dan Ddeddf Plant 2004. Materion 15.1, 15.2, 15.3, 15.4, 15.5, 15.6, 15.7, 15.8

28. Cyfraith teulu ac achosion cyfreithiol teuluol ac eithrio—

(a) cyngor i lysoedd ynghylch lles, cynrychiolaeth a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth arall i blant sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac i'w teuluoedd, a

(b) swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru.

Materion 15.1, 15.2, 15.3, 15.3, 15.4, 15.5, 15.6, 15.7, 15.8

".

(a)    p.32.

Clerc y Cyfrin Gyngor

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006”). Effaith y Gorchymyn yw estyn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfreithiau newydd ar gyfer Cymru drwy Fesur o dan adran 93 o Ddeddf 2006.

Mae'r diwygiadau yn ymwneud â maes 15 (lles cymdeithasol) yn Rhan 1 o Atodlen 5. Y mae a wnelo hwy â llesiant plant a'u teuluoedd a phobl ifanc.

Mae erthygl 2 yn mewnosod materion newydd, sef materion 15.1 i 15.8, a darpariaethau dehongli ar gyfer maes 15. Mae'r materion newydd yn cynnwys y canlynol—

  • diogelu plant rhag niwed ac esgeulustod (mater 15.1);
  • mabwysiadu a maethu (mater 15.2);
  • gofal cymdeithasol i blant a'r personau sy'n gofalu amdanynt (mater 15.3);
  • gofal cymdeithasol i bobl ifanc (mater 15.4);
  • cydweithrediad rhwng personau sydd â swyddogaethau, neu sy'n ymgymryd â gweithgareddau, sy'n ymwneud â llesiant plant a phobl ifanc a threfniadau sy'n gysylltiedig â hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc (mater 15.5);
  • cynllunio strategol gan awdurdodau lleol (mater 15.6);
  • parhau, diddymu a chreu swydd neu gorff y mae a wnelo â diogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc a swyddogaethau swydd neu gorff o’r fath (mae'r mater hwn yn cynnwys rôl a swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru) (mater 15.7);
  • hyrwyddo cydraddoldeb rhwng plant a phobl ifanc mewn perthynas â’u llesiant (mater 15.8).

Bydd unrhyw un o ddarpariaethau Mesur Cynulliad sy'n ymwneud â'r materion newydd, sef materion 15.1 i 15.8, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn rhinwedd telerau'r materion hynny ac adran 94(4) o Ddeddf 2006.

Mae erthygl 3 yn ychwanegu rhagor o faterion a eithrir at y tabl yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf 2006. Effaith y tabl hwn yw na chynhwysir y materion a bennir yn y golofn gyntaf (materion a eithrir”) yn y materion yn y meysydd a enwir yn yr ail golofn. Ni fydd y Cynulliad yn gallu gwneud darpariaeth mewn Mesur Cynulliad o dan adran 94(4) o Ddeddf 2006 ynghylch unrhyw beth yn y golofn gyntaf, hyd yn oed pe byddai fel arall yn ymwneud â'r materion yn y meysydd a bennir yn yr ail golofn. Bydd y materion a eithrir yn y golofn gyntaf y tu allan i gwmpas y materion a bennir yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn