Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 5) 2008 (Tai Fforddiadwy)

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol - arfaethedig gan y Llywodraeth a osodwyd gan Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Dai



Gwybodaeth am y Gorchymyn

Ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfreithiau newydd i Gymru trwy Fesur mewn perthynas â gwaredu tai a thai annedd gan landlordiaid cymdeithasol (Tai Fforddiadwy).

Eitemau newyddion cysylltiedig

Y Cynulliad yn ethol Pwyllgor i edrych ar ddeddfwriaeth arfaethedig i atal yr hawl-i-brynu, 12 Rhagfyr 2007
Pwyllgor yn galw am dystiolaeth ar ddeddfwriaeth arfaethedig ynghylch tai fforddiadwy, 17 Rhagfyr 2007
Pwyllgor ar y Gorchymyn arfaethedig ynghylch Tai Fforddiadwy - Cyfarfod 12 Ionawr 2009 - Canslwyd y cyfarfod

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig a'r Memorandwm Esboniadol

Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 5) 2008, fel y’i gosodwyd ar 3 Rhagfyr 2007 (Saesneg yn unig)

Memorandwm Esboniadol i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 5) 2008

Datganiad rhagarweiniol gan y Dirprwy Weinidog dros Dai, 4 Rhagfyr 2007

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth gan ofyn barn gan bawb sydd â diddordeb, ar y cynigion a gynhwysir yn y Gorchymyn arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 5) 2008. Mae’r alwad am dystiolaeth bellach wedi cau a gellir cael mynediad i’r ymatebion a dderbyniwyd yn y rhestr o ymatebion i'r ymgynghoriad.

Y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig

Sefydlwyd y Pwyllgor ar y Gorchymyn arfaethedig ynghylch Tai Fforddiadwy ar 12 Rhagfyr 2007 i drafod Gorchymyn arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol)(Rhif 5) 2008. Bydd y Pwyllgor yn dod i ben pan gaiff y Gorchymyn drafft perthnasol ei gyflwyno o dan Reol Sefydlog 22.31.

Aelodaeth y Pwyllgor

Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Drafft a Memorandwm Esboniadol

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai) 2009, fel y'i gosodwyd ar 12 Ionawr 2009.

Memorandwm Esboniadol i Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai) 2009

Dadl yn Cyfarfod llawn ar Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai) 2009, 20 Ionawr 2009