Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 6) 2008 (ynghylch darparu gwasanaethau iechyd meddwl)

Gorchymyn arfaethedig Aelod – wedi’i osod gan Jonathan Morgan AC

Gwybodaeth am y Gorchymyn

Ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud deddfau newydd ar gyfer Cymru drwy Fesur mewn perthynas â darparu gwasanaethau iechyd meddwl.

Eitemau newyddion cysylltiedig

Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cyntaf i gael ei gynnig gan Aelod Cynulliad, 18 Chwefror 2008
Pwyllgor yn ceisio barn y cyhoedd ar gymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig i’r Cynulliad ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, 26 Mawrth 2008

Cyhoeddi adroddiad ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig a'r Memorandwm Esboniadol

Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 6) 2008, (PDF) fel y’i gosodwyd ar 18 Chwefror 2008
Memorandwm Esboniadol (PDF) i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 6) 2008

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth (PDF, 71KB) gan ofyn barn gan bawb sydd â diddordeb, ar y cynigion a gynhwysir yn y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 6) 2008 (ynghylch Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl).  Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Gwener 25 Ebrill 2008 a dylai eich cyflwyniadau gyrraedd erbyn y dyddiad hwn fan bellaf. Hwyrach na fydd yn bosibl ystyried ymatebion sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwnnw.

Gellir gweld yr ymatebion a dderbyniwyd yn y rhestr o ymatebion i’r ymgynghoriad

Y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 26 Chwefror 2008 er mwyn trafod y gorchymyn arfaethedig, ‘Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 6) 2008’ (ynghylch darparu gwasanaethau iechyd meddwl) ac er mwyn cyflwyno adroddiad arno.

Bydd y pwyllgor yn dod i ben pan gaiff y Gorchymyn drafft perthnasol ei gyflwyno o dan Reol Sefydlog 22.31.

Aelodau

Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau

Dyddiadau y cyfarfodydd

Adroddiad y Pwyllgor a Dogfennau Perthnasol                                     

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Drafft a Memorandwm Esboniadol

Gorchymyn (Cymhwysedd Deddfwriaethol) Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd a Lles Cymdeithasol) 2010 (PDF) fel y'i gososwyd ar 2 Rhagfyr 2010

Memorandwm Esboniadol (PDF) i Gorchymyn (Cymhwysedd Deddfwriaethol) Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd a Lles Cymdeithasol) 2010