Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5
Annwyl Gydweithiwr
Ymgynghoriad cyhoeddus (dyddiad cau - 20 Mawrth 2009)
Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009
Ysgrifennaf atoch i’ch gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor ar y Gorchymyn arfaethedig, Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009 ('y Gorchymyn arfaethedig’) erbyn dydd Gwener 20 Mawrth 2009.
Gosodwyd y Gorchymyn arfaethedig gerbron y Cynulliad ar 2 Chwefror 2009 gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, ac fe’i cyfeiriwyd at Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 i’w ystyried yn fanwl. Mae’r Pwyllgor yn bwriadu cyflwyno adroddiad yn nodi ei gasgliadau ar y Gorchymyn arfaethedig yn ystod hanner cyntaf tymor yr haf.
Bydd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio ar ystyried a ddylai fod gan y Cynulliad y pŵer, mewn egwyddor, i ddeddfu drwy Fesur yn y maes a nodir yn y Gorchymyn arfaethedig:
hybu a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg, yn cynnwys gosod dyletswyddau ar gategorïau penodol o bersonau i ddarparu gwasanaethau penodol yn ddwyieithog i’r cyhoedd yng Nghymru; a
rhyddid personau i gyfathrebu â’i gilydd yn Gymraeg.
Yn ei gyfarfod cyntaf ar 10 Chwefror 2009, cytunodd y Pwyllgor ar gwmpas ei waith craffu ar y Gorchymyn arfaethedig, gan ystyried yn benodol:
(i) egwyddorion cyffredinol y Gorchymyn arfaethedig ac a ddylid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad yn y maes a nodir ym Materion 20.1 a 20.2; a
(ii) a yw telerau’r Gorchymyn arfaethedig wedi’u diffinio’n rhy eang neu’n rhy gul.
Yn ôl arfer pwyllgorau deddfwriaeth wrth ystyried cynigion ar gyfer Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, bydd y Pwyllgor yn osgoi adolygu polisïau sydd eisoes yn bodoli yn y maes hwn neu gymryd rhan mewn trafodaethau manwl ar y cynigion penodol ar gyfer Mesurau y gellir eu cyflwyno o ganlyniad i roi cymhwysedd deddfwriaethol, er enghraifft, safbwyntiau o ran sut y dylid gweithredu Mesurau. Mater i’r Cynulliad graffu arno’n ddiweddarach yw hwn.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Gorchymyn arfaethedig, y Memorandwm Esboniadol, manylion y Pwyllgor a chanllaw i’r broses ddeddfu ar dudalennau deddfwriaeth gwefan y Cynulliad (Busnes / Deddfwriaeth / Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol /Rhif 10 - yr Iaith Gymraeg):
h
ttp://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-legislative-competence-orders/bus-legislation-lco-2009-no10.htmGwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gorchymyn arfaethedig i gyflwyno tystiolaeth arno, a hynny er mwyn helpu i lywio gwaith y Pwyllgor. Wrth baratoi eich cyflwyniad, byddai’n ddefnyddiol pe gallech fynd i’r afael â’r cwestiynau a nodwyd gan y Pwyllgor - gweler Atodiad 1. Ceir manylion o ran sut i ymateb yn Atodiad 2.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr ymgynghoriad neu waith y Pwyllgor, cysylltwch ag Anna Daniel, y Clerc (ffôn 029 2089 8144), neu Olga Lewis, y Dirprwy Glerc (ffôn 029 2089 8154).
Mark Isherwood AC
Cadeirydd
Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5
Atodiad 1
Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ymgynghoriad ar Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009
Mae’r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad cyffredinol sy’n canolbwyntio ar dri chwestiwn allweddol yn ymwneud â’r Gorchymyn arfaethedig. Mae’r Pwyllgor hefyd yn gofyn am sylwadau ar gwestiynau mwy manwl mewn perthynas â chwmpas y Gorchymyn arfaethedig. Ymatebwch yn y ffordd sydd fwyaf priodol i lefel eich diddordeb a’ch maes diddordeb o ran y Gorchymyn arfaethedig.
Ymgynghoriad cyffredinol:
Nodwch eich barn o ran a ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.
1. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â hyrwyddo a defnyddio’r iaith Gymraeg? [gweler hefyd gwestiynau 4, 5 ac 11 isod]
2. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â pha wasanaethau ddylai’r cyhoedd allu eu cael yn ddwyieithog? [Er mwyn gweld trafodaeth fanylach ar yr agwedd hon, gweler cwestiynau 6-9 ac 11 isod]
3. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd? [gweler hefyd gwestiwn 10 isod]
Ymgynghoriad manwl:
4. Beth yw eich barn am yr egwyddor cyffredinol y dylid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad yn y maes a nodir ym Materion 20.1 a 20.2? hy
- Mater 20.1: Hybu neu hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg; a thrin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ar sail cydraddoldeb;
- Mater 20.2: Darpariaeth am neu mewn cysylltiad â rhyddid personau sy’n dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg i wneud hynny â’i gilydd (gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y rhyddid hwnnw).
6. Beth yw eich barn ar gwmpas y Gorchymyn arfaethedig o ran y categorïau o bersonau y byddai’n caniatáu i’r Cynulliad osod dyletswyddau arnynt i ddarparu gwasanaethau penodol yn ddwyieithog i’r cyhoedd, hy a yw wedi’i lunio’n rhy gul neu’n rhy eang (Mater 20.1 (a) - (i))? Nodwch yn glir yr isadran/isadrannau y mae eich sylwadau yn ymwneud â hi/â hwy, hy (a) - (i) ac unrhyw is-isadrannau o dan (h).
7. A yw’r diffiniad a ddefnyddir ar gyfer "awdurdodau cyhoeddus” ar gyfer y Mater hwn yn briodol ("pob awdurdod cyhoeddus sy’n dod o fewn ystyr "public authority” yn adran 6 Deddf Hawliau Dynol 1998”)? Os na, pa ddiffiniad y dylid ei ddefnyddio a pham?
8. Byddai Mater 20.1 yn caniatáu i ddyletswyddau gael eu gosod ar "wasanaethau telathrebu” a "gwasanaethau post a swyddfeydd post” (Mater 20.1 isadran (h)(iii) a (h)(iv)). A yw’r diffiniadau a ddefnyddir ar gyfer "gwasanaethau post”, a "gwasanaethau telathrebu” o dan yr adran "Dehongli’r maes hwn” yn y Gorchymyn arfaethedig yn angenrheidiol ac yn briodol? Os na, sut y dylid mynd ati i’w hailddrafftio a pham y dylid gwneud hyn?
9. Mewn perthynas â Mater 20.1, isadran (e) - "personau sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd sy’n derbyn cyfanswm o £200,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol”, sef "arian y perir ei fod ar gael yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol”:
(i) A yw’n angenrheidiol nodi’r diffiniad o "arian cyhoeddus” yn y Gorchymyn arfaethedig? Os felly, a yw’n briodol (fel y’i nodir o dan "Dehongli’r maes hwn”)?
(ii) Byddai dyletswyddau ond yn cael eu gosod ar bobl sy’n derbyn mwy na £200,000. Ai £200,000 yw’r trothwy cywir i’r Cynulliad gael pwerau deddfu?
10. A yw cwmpas Mater 20.2 yn briodol ("darpariaeth am neu mewn cysylltiad â rhyddid personau sy’n dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg i wneud hynny â’i gilydd (gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y rhyddid hwnnw)”)? A fydd yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu yn y dyfodol er mwyn gweithredu’r cynnig fel y mae wedi’i amlinellu yn y Memorandwm Esboniadol?
11. Beth yw eich barn ynghylch Erthyglau 4 a 5 y Gorchymyn arfaethedig sy’n ymdrin â chymhwyso’r Gorchymyn arfaethedig i gyrff y Goron?
12. A oes unrhyw faterion eraill a fyddai’n dylanwadu ar effeithiolrwydd unrhyw Fesurau yn y dyfodol gan nad yw’r Gorchymyn arfaethedig yn ddigon eang? Os felly, a allwch awgrymu sut y byddai’n rhaid ehangu’r Gorchymyn arfaethedig er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn?
Atodiad 2
Sut i ymateb i’r ymgynghoriad hwn
Os hoffech ymateb i’r ymgynghoriad, cofiwch y pwyntiau a ganlyn:
Dylai eich ymateb fod mor gryno â phosibl. Nodwch y teitl isod ar eich ymateb;
Nodwch a ydych yn ymateb ar ran sefydliad neu fel unigolyn;
Fel arfer, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn i’r cyhoedd graffu arnynt, er enghraifft drwy wefan y Cynulliad. Fel arfer, byddwn yn cyhoeddi enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr awdur ynghyd â’r ymateb. Os nad ydych am i ni gyhoeddi eich ymateb neu eich enw a’ch cyfeiriad (neu ran o’r cyfeiriad) mae’n bwysig eich bod yn nodi hyn yn glir yn ysgrifenedig ar ddiwedd eich cyflwyniad.
Er mwyn defnyddio llai o bapur ar gyfer yr ymgynghoriad, cyflwynwch eich ymateb yn electronig lle bynnag y bo’n bosibl, a hynny drwy anfon e-bost i:
s
wyddfadeddfwriaeth@cymru.gsi.gov.ukFel arall, gallwch bostio eich ymateb (ar ddisg neu ar ffurf copi caled) i:
Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5
Y Swyddfa Ddeddfwriaeth
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Defnyddiwch y canlynol fel teitl eich e-bost neu’ch cyflwyniad: "Ymgynghoriad PD5 (LCO- Yr Iaith Gymraeg)”.
Dylid sicrhau ein bod yn derbyn eich cyflwyniadau erbyn dydd Gwener 20 Mawrth 2009. Efallai na fydd yn bosibl ystyried ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg a Saesneg. Os oes diddordeb gennych mewn cael gwybodaeth am unrhyw ymgynghoriad ar y maes hwn yn y dyfodol, nodwch hyn yn eich ymateb.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag Anna Daniel, y Clerc (ffôn: 029 2089 8144), neu Olga Lewis, y Dirprwy Glerc (ffôn: 029 2089 8154).
