Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig gan y Llywodraeth a osodwyd gan Jane Hutt AM, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Gwybodaeth am y Gorchymyn

Ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfriethiau newydd i Gymru trwy Fesur mewn perthynas â llywodraethu ysgolion.

Y newyddion diweddaraf

Wedi i destun y Gorchymyn drafft gael ei gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol a dau Dŷ’r Senedd, gwnaethpwyd y Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 12 Ebrill 2010. Caiff y Cynulliad bellach wneud Mesurau (cyfreithiau) o dan y Materion a restrir yn y Gorchymyn.

Hynt y Gorchymyn

Mae’r tabl a ganlyn yn dangos y dyddiadau allweddol yn hynt y Gorchymyn drwy’r Cynulliad.

Gorchymyn Addysg Arfaethedig 2010

Cyfnod

Dyddiad

  • Gosod y Gorchymyn arfaethedig

  • 19 Hydref 2009

  • Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 yn ystyried y Gorchymyn arfaethedig

  • 12, 19, 26 Tachwedd 2009

  • 3, 10 Rhagfyr 2009

  • 14, 21 Ionawr 2010

  • Gosod y Gorchymyn drafft

  • 18 Chwefror 2010

  • Gorchymyn drafft – dadl yn y Cyfarfod Llawn

  • 23 Chwefror 2010

  • Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor

  • 12 Ebrill 2010

Gwybodaeth baerthnasol

Cewch ragor o wybodaeth am y Gorchymyn hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.

|

Y Gorchymyn arfaethedig a’r Memorandwm Esboniadol

|
  • Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Gorchymyn arfaethedig

Ymgynghorodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 ar Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010, a fydd yn rhoi’r hawl i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu mewn perthynas â llywodraethu ysgolion.

Mae’r gwahoddiad i roi tystiolaeth bellach wedi cau.

  • Adroddiad y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig

Adroddiad y Pwyllgor

Partneriaid a Help