Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Llywodraeth Leol) 2009
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig gan y Llywodraeth a osodwyd gan Brian Gibbons AC
Gwybodaeth am y Gorchymyn
Ehangu cymhwysedd y Cynulliad mewn cysylltiad â llywodraeth leol i gynnwys cynghorau cymuned (sy’n cynnwys eu cyfansoddiad, eu strwythur, eu gweithdrefnau, eu galluogrwydd a’r modd y maent yn cyflenwi gwasanaethau), adolygiadau cymunedol, y gydberthynas rhwng haenau o lywodraeth leol, lwfansau cynghorwyr a recriwtio a chadw cynghorwyr.
Y newyddion diweddaraf
Wedi i destun y Gorchymyn drafft gael ei gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol a dau Dŷ’r Senedd, gwnaethpwyd y Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 12 Ebrill 2010. Caiff y Cynulliad bellach wneud Mesurau (cyfreithiau) o dan y Materion a restrir yn y Gorchymyn.
Hynt y Gorchymyn
Mae’r tabl a ganlyn yn dangos y dyddiadau allweddol yn hynt y Gorchymyn drwy’r Cynulliad.
Cyfnod |
Dyddiad |
|---|---|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Gwybodaeth berthnasol
Cewch ragor o wybodaeth am y Gorchymyn hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.
