Y Trydydd Cynulliad (2007 - 2011)
Mesurau
Yn ystod y Trydydd Cynulliad gallai Llywodraeth Cymru, Pwyllgorau’r Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad gynnig Mesur Cynulliad. Mae’r gweithdrefnau sy’n berthnasol i Fesurau wedi’u gosod allan yn Rheol Sefydlog 23.Yn ystod y Trydydd Cynulliad, roedd yna bedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur arfaethedig, sef:
Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl;
Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl;
Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig.
Mae gwybodaeth am ddeddfwriaeth a ystyriwyd yn ystod y Trydydd Cynulliad ar gael yn Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a Mesurau'r Trydydd Cynulliad
