Mesurau
Gall Llywodraeth Cynulliad Cymru, Pwyllgor y Cynulliad, Aelod y Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno Mesur arfaethedig.
Mae yna bedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur arfaethedig, sef:
- Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
- Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl;
- Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl;
- Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig.
Mesurau sydd ar waith:
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth bresennol yn y Cynulliad ar gael yn Cynnydd Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a Mesurau Cynulliad
Mae'r Mesurau canlynol ar waith ar hyn o bryd:
Mesurau Cynulliad a Basiwyd, a Wrthodwyd neu a Dynnwyd yn ôl