Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009
Mesur arfaethedig pwyllgor – cyflwynwyd gan Jeff Cuthbert AC, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad .
Diben y Mesur Arfaethedig
Bydd Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi sail statudol i swydd y Comisiynydd Safonau. Bydd yn sicrhau bod y Comisiynydd, unwaith y caiff ei benodi, yn cael ei weld i fod yn gwbl annibynnol ar y Cynulliad ac felly’n gallu ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau Pwyllgor gyda gwrthrychedd llwyr. Bydd hefyd yn rhoi pwerau i’r Comisiynydd i’w alluogi i ymchwilio i gwynion yn drylwyr, yn cynnwys y pwer i’w gwneud yn ofynnol i drydydd parti ddarparu gwybodaeth berthnasol.Newyddion diweddaraf
Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 9 Rhagfyr 2009. Mae’r Mesur arfaethedig erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).
Cofnod o Daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynod |
Dyddiad |
|---|---|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
* Pwyllgor ar y Safonau Ymddygiad
** Y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1
