Y Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009
Mesur Arfaethedig Aelod a gyflwynwyd gan Jenny Randerson AC.
Diben y Mesur Arfaethedig yw
Prif ddiben y Mesur arfaethedig yw cynnig polisi cyfannol, cynhwysfawr, wedi’i wneud yng Nghymru, yn ymwneud â maeth sy’n sicrhau bod bwyta’n iach yn cael ei hybu a’i gefnogi ar gyfer yr holl ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol Cymru.
Newyddion diweddaraf
Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Hydref 2009. Mae’r Mesur arfaethedig erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).
Cofnod o Daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009
Cynod |
Dyddiad |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
* Y Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig
Bwyta'n Iach mewn Ysgolion
(Cymru)
** Y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1
Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny.
Pwyllgor Cyfnod 1
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 30 Ebrill 2008 i ystyried egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig. Daeth y Pwyllgor i ben pan gafodd trafodion Cyfnod 2 eu cyfeirio i Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 gan y Pwyllgor Busnes.
Aelodau'r Pwyllgor
Agendâu, Papurau a Thrawsgrifiadau (Mai - Medi 2008)
Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi
galwad am dystiolaeth , sydd bellach wedi cau. Gellir cael mynediad i'r ymatebion a dderbyniwyd yn yr
ymatebion ymgynghoriad a dderbyniwyd.
Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1Cyhoeddodd y Pwyllgor ei
adroddiad ar y cyfnod cyntaf ar 6 Hydref 2008.
Dadl yn y Cyfarfod LlawnCytunod y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r ddadl ar y cyfnod cyntaf yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Hydref 2008.
Eitemau newyddion cysylltiedig
Ceir eitemau newyddion a baratowyd gan y Cynulliad mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth hon yn yr adran ar gyfer Dogfennau perthnasol.
Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl.
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 16 Hydref 2008 a ddaeth I ben ar 10 Mehefin 2009. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn: