HES 25 - Cyngor Sir Ynys Mon
Ymgynghoriad Mesur Bwyta’n Iach
Ymateb gan Grwp Partneriaeth Bwyd a Maeth, ysgolion a chanolfannau hamdden; is-grwp Cynghrair Iechyd Môn. Aelodaeth yn cynnwys yr Adain addysg Cyngor Sir Ynys Môn, Bwrdd Iechyd Lleol Môn, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru a’r sector wirfoddol.
1. A oes angen Mesur Cynulliad i hybu bwyta’n iach mewn ysgolion o ystyried bod mentrau eisoes yn bodoli yn y maes polisi hwn?
Mae’r Grwp Partneriaeth yn croesawu mesur cynulliad hybu bwyta’n iach mewn ysgolion; mae’n galluogi pwerau i benaethiaid ynghlyn a gwireddu polisi bwyd a ffitrwydd yr ysgol a hefyd yn atgyfnerthu bwriad ‘Blas am Oes’. Serch hynny mae angen i’r mesur fynd law wrth law a ffitrwydd, gan fod y ddau yn gydgysylltiol.
2. A ydych yn cefnogi’r darpariaethau allweddol a nodi yn y mesur arfaethedig h.y.
y ddyletswydd ar Weinidogion Cymru, cyrff llywodraethu, penaethiaid ac awdurdodau addysg lleol i hybu bwyta’n iach mewn ysgolion
Rydym yn gefnogol; mi fuasai hyn yn annog a chryfhau gweithio mewn partneriaeth gan sicrhau fod bwyta’n iach yn flaenoriaeth i bawb.
dylai bwyta’n iach fod yn rhan o’r drefn arolygu a dylai gynnwys gofynion adrodd ar Weinidogion Cymru, y prif arolygydd dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru a chyrff llywodraethu
Cytuno gan fuasai hyn yn rhoi statws a phwyslais ar bwysigrwydd darlun ysgol ‘gyfan’. Rydym yn cefnogi fod angen i arolygwyr sydd ddim gydag arbenigedd yn y maes dderbyn hyfforddiant a bod ysgolion yn derbyn cefnogaeth a chymorth lleol a cenedlaethol, cyn ac yn dilyn ymweliad.
Rydym yn croesawu'r diwygiad a fyddai’n rhoi'r pwyslais ar lywodraethwyr i gynnwys bwyd yn eu hadroddiad blynyddol. Er, eto dylir clymu hyn gyda ffitrwydd.
Dylid hefyd ystyried sefydlu system rheoli perfformiad lleol er mwyn monitro datblygiadau yn gyson.
pwer gweinidogion Cymru i bennu safonau maethiad, gan gynnwys yr angen i bennu lefelau uchafswm halen, siwgr ac ychwanegion artiffisial mewn bwyd a diod a ddarperir ar gyfer disgyblion ar fangre ysgol
Cytuno, er mwyn cefnogi egwyddorion ‘Blas am oes’, a chael cysondeb ledled Cymru fuasai’n atal anghydraddoldebau. Rydym yn gefnogol o’r bwriad i ymgynghori gyda disgyblion, athrawon, rhieni a staff arlwyo yn y broses yma.
Er, rydym yn pwysleisio’r pwysigrwydd o beidio cynyddu costau prisiau prydau cinio a bod angen cydbwysedd gyda darpariaeth bocsys bwyd h.y. fod yr un egwyddor mewn grym.
annog disgyblion i fwyta cinio ysgol a diogelu hunaniaeth y rhai sy’n ei gael am ddim
Cytuno, er rydym o’r farn fod angen cryfhau'r gwaith ymchwil i mewn i effeithiolrwydd ‘swipe cards’ neu system debyg. Hefyd mae angen ail ystyried meini prawf ‘cinio am ddim’ e.e. teuluoedd sydd ar y ffiniau, teuluoedd gyda mwy na tri phlentyn.
ddyletswydd ar awdurdodau addysg lleol i sicrhau bod dwr ar gael i ddisgyblion
Cytuno, ond fod angen cefnogaeth ariannol awdurdodau lleol i alluogi fod bob ysgol gyda ‘tap’ yn lle peiriannau dwr (oherwydd oblygiadau cynnal a chadw costus i’r ysgolion) a bod unrhyw faterion gynhaliaeth yn cael ei dalu gan yr Awdurdod. Am y pwrpas yma, dylai’r arian ddod yn uniongyrchol gan y Cynulliad.
3. Beth yw oblygiadau ymarferol rhoi’r darpariaethau hyn ar waith?
Sicrhau fod y costau arfaethedig yn cael ei anrhydeddu
Arbenigedd e.e. dietegwyr ar gael i gefnogi’r gwaith
Pwysleisio pwysigrwydd ymgynghori ar yr agenda yma
Dylir ystyried cysidro'r elfen o hyfforddi i gefnogi’r mesur e.e. llywodraethwyr
4. A hoffech chi weld rhagor o ddarpariaethau’n cael eu hychwanegu at y mesur cynulliad arfaethedig?
Mae’n nodi’r glir yn y mesur na fydd pwyslais yn cael ei rhoi ar y ‘bwyd y deuir i mewn i’r ysgol gan ddisgyblion oddi ar dir yr ysgol’. Rydym o’r farn fydd hyn yn gwanhau pwrpas y mesur. O ‘n brofiad a’n gwaith gydag ysgolion, hyn i’w brif anhawster gyda symud mlaen a’r agenda bwyta iach a ffitrwydd.
Hefyd, sicrhau amser penodol ar gyfer awr ginio. Oherwydd pwysau cwricwlwm, mae rhai ysgolion yn cwtogi hyn.
5. Ydych chi’n credu y bydd y mesur cynulliad arfaethedig yn cyflawni ei ddiben a’i nod cyffredinol h.y. alluogi datblygiad a gweithrediad polisi cyfannol, cynhwysfawr, wedi’i wneud yng Nghymru ar faeth mewn ysgolion?
Ydym dim ond yn unig os mae partneriaethau ar bob lefel yn ymrwymo i’r agenda, bod y mesur yn statudol, bod cefnogaeth ymarferol ac ariannol ar gael, a'i fod ynghlwm a ffitrwydd. Rydym yn teimlo’n gryf fod angen cymorth a chefnogaeth i’r ysgol allu hyrwyddo bwydydd iach sydd yn dod o’r cartref neu o du allan i dir yr ysgol.