Cynulliad Cenedlaethol Cymru

HES 40 - Cyngor Sir Ceredigion

Sylwadau Cyngor Sir Ceredigion ar y Mesur Arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion 2008

Croesawir y Mesur am ei agwedd gyfannol tuag at ddarparu a bwyta prydau ysgol iach sydd yn cynnwys safonau maethlon prydau bwyd yn ogystal ag addysgu disgyblion ynglyn â manteision bwyta’n iach drwy’r cwricwlwm ysgol.

Man cychwyn sylfaenol ar gyfer darparu prydau ysgol iach yw bod yn rhaid i’r bwyd a ddarparir fodloni gofynion diogelwch bwyd a’u paratoi yn unol ag arfer hylendid dda.  Mae Gwobr Hylendid Bwyd Cymru yn cydnabod y mannau hynny sydd yn cyrraedd safonau hylendid uchaf (lefel aur, arian neu efydd)  Mae’n rhesymol disgwyl y dylai pob cyfleuster arlwyo ar gyfer ysgolion yn cwrdd â’r safon efydd o leiaf.  

Dylai unrhyw Fesur fod yn ddigon   cadarn i sicrhau bod y gofynion yn cael eu cwrdd yn ddigonol mewn cytundebau a wnaethpwyd gan Awdurdodau Addysg Lleol a Chyrff Llywodraethol Ysgolion ar gyfer gwasanaethau arlwyo gan ddarparwyr allanol yn ogystal â’i wasanaeth mewnol ei hun.

Mynegir pryder bod y Mesur ond yn cynnwys prydau sydd yn cael eu darparu yn yr ysgol.  Mae angen eglurder a ydyw hyn yn cyfeirio at fwyd a diod a ddarparir mewn peiriannau gwerthu a siopau bwyd.  A fyddai peiriannau gwerthu sydd yn cynnig dewisiadau nad ydynt yn iach felly yn cael eu gwahardd?  Ymhellach, ychydig o reolaeth sydd yna dros becynnau bwyd a faniau symudol y tu allan i gatiau’r ysgol.  Cydnabyddir tra bo awdurdodau lleol â’r pwerau i gyflwyno is-ddeddfau yn ymwneud â gwahardd masnachu ar y strydoedd, gall hyn fod yn ddwys o ran adnoddau er mwyn gweithredu a gweinyddu.  Yn achos ysgolion uwchradd, os nad oes gwaharddiadau ar ddisgyblion rhag gadael tir yr ysgol, yna yn ystod yr egwyl  gallant brynu byrbrydau, bwydydd cyflym ayb o fannau ger llaw.  

Mae’r mesur arfaethedig yn cynnwys y gofyniad bod ysgolion yn darparu dwr yfed yn rhad ac am ddim.  Unwaith eto croesawir hyn er yr ystyrir er mwyn bod  yn unol â’r gofyniad sylfaenol o hyrwyddo datblygiad cynaliadwy, y dylid rhoi manylion pellach yn y mesur er mwyn nodi y dylai’r cyflenwad ddod o’r brif bibell ddwr lle bo hynny’n bosibl (yn hytrach na photeli dwr neu beiriant dwr oer).

Croesawir bod y Mesur arfaethedig hwn yn darparu sylfaen statudol ar gyfer sawl argymhelliad o Blas am Oes sydd ar hyn o bryd yn cael ei dreialu mewn pedair ardal yng Nghymru (gyda Cheredigion yn un o’r ardaloedd hyn).  Anogir bod y gwersi a ddysgir oddi wrth yr ardaloedd peilot hyn yn cael eu hystyried cyn cytuno ar y Mesur, a chyn cyflwyno unrhyw reoliadau a chanllawiau pellach.  Mynegwyd pryder eisoes bod goblygiadau ariannol Blas am Oes eisoes yn uchel.  Er enghraifft, mae’r rhwystrau a nodir gan ddisgyblion ysgol yn erbyn bwyta prydau ysgol yn cynnwys: ciw hir, ystafell fwyta wael neu ddim un o gwbl, cost.  Mae angen buddsoddi cyfalaf sylweddol felly mewn nifer o ysgolion er mwyn dod dros y rhwystrau hyn.  

Mae’r Cyngor yn croesawi’r awgrym sut i beidio â datgelu pa ddisgyblion sydd yn derbyn prydau ysgol yn rhad ac am ddim sydd hefyd weithiau yn rhwystro disgyblion rhag cymryd cinio ysgol.

Yn ogystal â buddsoddiad cyfalaf i wella’r ddarpariaeth o brydau ysgol, mae’n rhaid cwrdd hefyd â chost gynyddol darparu prydau ysgol iach.  Gyda chynnydd ym mhris tanwydd, mae awdurdodau gwledig lleol yn enwedig yn gweld cynnydd uchel yng nghost cynhwysion yn ychwanegol at gost cynhyrchu prydau ysgol iach.  Mae’n rhaid ystyried y costau hyn yn y refeniw a ddarparir i awdurdodau lleol wrth weithredu’r Mesur hwn.

Croesawir hefyd y gwelliant yn safonau maeth prydau ysgol drwy Blas am Oes a chroesawir y mesur hwn hefyd yn sgil y cynllun Gwobrau Dewisiadau Iach Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd sydd yn ceisio annog y rhan fwyaf o sefydliadau arlwyo bwyd i ddarparu a gwella’u dewisiadau iach.  Er nad oes cefnogaeth statudol na chefnogaeth gan y Cynulliad, ystyrir bod y Cynllun Gwobrau Dewisiadau Iach yn cyfrannu tuag at yr ymgyrch i gynyddu a hyrwyddo dewisiadau iach a lleihau lefelau gordewdra.

Denfer Morgan

Prif Swyddog Gweinyddol
Adran y Prif Weithredwr
Cyngor Sir Ceredigion