Mehefin 2008
A oes angen Mesur Cynulliad i hybu bwyta’n iach mewn ysgolion o ystyried bod mentrau eisoes yn bodoli yn y maes polisi hwn?
Gall Mesur gefnogi a chryfhau’r mentrau sydd eisoes yn bodoli a sicrhau dull cyfannol ysgol gyfan o drin bwyta’n iach. Rhaid bod yn ofalus, serch hynny, i beidio dyblygu beth sydd ar gael yn barod a gwario arian heb eisiau a chreu llwyth gwaith ychwanegol.
Ni fydd modd i’r Mesur fynd i’r afael â natur y bwyd mae disgyblion yn cludo o’u cartrefi, felly nid yw’r Mesur ar ei ben ei hun yn mynd i newid agwedd cymdeithas tuag at fwyta’n iach. Mae’n bosib ni fydd yn cyrraedd rhai o’n plant a’n pobl ifainc.
A ydych yn cefnogi’r darpariaethau allweddol a nodir yn y Mesur arfaethedig, h.y.
a) y ddyletswydd ar Weinidogion Cymru, cyrff llywodraethu, penaethiaid ac awdurdodau addysg lleol i hybu bwyta’n iach mewn ysgolion:
Mae angen i rain oll gyd-weithio i sicrhau darpariaeth addas o fwyd iach i’n plant a phobl ifainc.
Efallai bod modd sicrhau uchafswm yn y prydau bwyd a baratoir ar gyfer y disgyblion ond beth am ddigwyddiadau arbennig megis parti Nadolig plant, nosweithiau agored neu nosweithiau rhieni pan mae rhieni yn cyfrannu at y bwyd a ddarperir? Mae yna berygl i ddigwyddiadau cymdeithasol o’r fath ddod i ben os na fydd modd gwneud eithriadau, ar adegau.
Mae’r Mesur yn sôn, hefyd, am adeg teithiau ac ymweliadau. Mae safonau bwyd yn anodd ei rheoli ar adegau fel hyn. Mae UCAC yn pryderu sut mae modd rheoli dewisiadau bwyd disgyblion pan maent ar ymweliad, e.e. theatr, gwyliau tramor, Parc Thema. Pa mor atebol bydd ysgolion am hyn? Anymarferol.
ch) annog disgyblion i fwyta cinio ysgol a diogelu hunaniaeth y rhai sy’n ei gael am ddim
Mae UCAC yn cytuno bod angen darparu bwyd iach yn yr ysgolion ac annog disgyblion i fwyta cinio ysgol. Rhaid ystyried cost pob pryd bwyd mewn trefn lle mae’r disgyblion yn cael dewis eu bwyd.
Mae UCAC yn credu y dylai defnyddio cynnyrch lleol, lle bo hynny’n bosib, fod yn rhan o’r canllawiau ar gyfer y darparwyr.
Yn bendant mae angen diogelu hunaniaeth y rhai sy’n derbyn prydau bwyd am ddim. Mae plant a phobl ifainc yn sensitif i’r stigma o dderbyn cinio am ddim.
d) dyletswydd ar awdurdodau addysg lleol i sicrhau bod dwr yfed ar gael i ddisgyblion
Mae UCAC yn cytuno â’r pwysigrwydd o gael dwr yfed ar gael ar fangre’r ysgol. Mae yna oblygiadau ariannol difrifol o gynnal y ddarpariaeth os ydym yn sôn am boteli dwr (water coolers).
Beth yw oblygiadau ymarferol rhoi’r darpariaethau hyn ar waith?
Costau ariannu’r polisïau / datblygiadau
Nid yw UCAC yn credu mai’r ysgolion a’r AALl ddylai dalu am unrhyw gostau ychwanegol wrth weithredu’r Mesur. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru yw ei ariannu’n llawn. Nid mater sydd yn ymwneud yn unig â byd addysg yw bwyta’n iach. Mae’n broblem gymdeithasol ac yn broblem feddygol gyda llawer o ffactorau’n effeithio dewisiadau pobl. Yn y tymor hir bydd unrhyw welliannau yn safio arian i’r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Mae UCAC yn argymell, eto, mai am dair blynedd yn unig y dylai’r adroddiadau ar y datblygiadau gael eu cyflwyno gan y Cyrff Llywodraethol; am dair blynedd yn unig, fel arfer, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu cynlluniau unigol ac ar ôl hynny mae’r arian yn cael ei gynnwys yn y setliad blynyddol. Mewn geiriau eraill, mae’r arian yn mynd ar goll yn y niwl cyllido addysg yng Nghymru.
Nid yw UCAC yn cefnogi unrhyw drefn ariannu sy’n ddibynnol ar ysgolion / AALl yn gwneud bid neu gais unigol am arian. Mae systemau o’r fath yn ychwanegu at lwyth gwaith ac yn gallu arwain at annhegwch.
Dylid sefydlu fformiwla deg sydd yn sicrhau bod pob awdurdod a phob ysgol yn medru cwrdd â gofynion y Mesur yn llawn, heb ychwanegu dim at eu costau.
Rhaid cofio hefyd bydd rhai o’r costau’n barhaol ychwanegol, e.e. darparu dwr ar safle’r ysgol os mai system dwr potel (water coolers) bydd hyn.
Cytundebau
A fydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno fel y bydd y cytundebau am gyflawni bwydydd i’r ysgolion yn cael eu hadnewyddu, ynteu fydd gan y Mesur yr hawl i newid y cytundebau cyn iddynt ddod i ben? (Gallai hyn olygu costau ychwanegaol o bosibl).
Diogelu hunaniaeth y sawl sy’n derbyn cinio am ddim
Mae mor bwysig sicrhau hyn. Mae rhai ysgolion mewn gwell sefyllfa nag eraill o ran y trefniadau sydd ganddynt. Byddai efallai’n werth ystyried rhai o’r enghreifftiau mwyaf llwyddiannus a’u costio cyn eu hargymell ar gyfer ysgolion sydd angen newid eu trefniadau. Mae yna oblygiadau cost fan hyn, hefyd.
Mae son yn y ddogfen esboniadol yn 8.61 am system electronig o benderfynu ar gymhwyster ar gyfer cinio am ddim. Nid yw’n glir yn yr esboniad os byddai disgwyl i rieni wneud cais “ar lein”. Os hynny gofynnwn fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau bod ffyrdd eraill o wneud cais yn cael eu darparu hefyd. Mae’r teuluoedd lleiaf breintiedig yn llai tebygol o berchen cyfrifiadur ac yn llai tebygol o feddu ar sgiliau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Gofynnwn hefyd a oes gwir angen i gomisiynu adroddiad penodol i ddarganfod pam nad yw disgyblion yn achub y cyfle o dderbyn cinio am ddim? (Awgrymir hyn yn 8.60). Teimla UCAC mai gwastraff arian byddai hyn, onid yw’r prif resymau’n barod yn amlwg? Sef, y stigma’n ymwneud a derbyn cinio am ddim (os nad oes trefniant arbennig yn yr ysgol i ddiogelu eu hunaniaeth), safon y bwyd mewn rhai ysgolion, ddim yn dymuno newid i fwyta’n iach os wedi arfer â bwyd hollol gwahanol? Oni fyddai’n well mynd i’r afael yn gyntaf a diogelu hunaniaeth a gweld os bydd gwelliant yn y sefyllfa cyn gwario arian ar gomisiynu adroddiad? Beth bynnag bydd y system a ddewisir, rhaid diogelu hawliau’r unigolyn. Mae UCAC yn ymwybodol o un ysgol lle defnyddir olion bysedd plant yn y ffreutur yn lle talu ar y pryd ond mae rhai rhieni wedi dweud nad ydynt yn dymuno i’r ysgol gymryd a defnyddio olion bysedd eu plant.
Adnoddau ac adnoddau dynol
Mae’r Mesur yn cyfeirio at ddyletswydd i AALl i “have regard to any relevant reputable scientific advice.” Oni ddylai fod yn ddigonol dilyn canllawiau’r Cynulliad? Pwy sydd i benderfynu beth sydd yn “relevant” ac yn “reputable”?
Mae angen gwella ceginau rhai ysgolion (dal rhai ysgolion lle nad oes cegin a rhaid derbyn bwyd o safle arall).
Angen mwy o athrawon sydd wedi arbenigo mewn Coginio / Technoleg Bwyd.
Costau gweinyddu, e.e. yr adroddiad blynyddol a chostau o ran amser gwaith paratoi’r adroddiad.
Er mai’r Corff Llywodraethu sydd i baratoi’r adroddiad (yn wreiddiol enwyd y Pennaeth) rhaid cofio ei fod yn debygol mai’r Pennaeth fydd yn casglu’r wybodaeth ac ati.
Arolygwyr wedi hyfforddi’n addas h.y. arbenigwyr maeth wedi hyfforddi fel arolygwyr. Ai son ydym am un person ar gyfer pob tîm o arolygwyr?
Ysgolion Cynradd a Sgiliau Bwyd
Nid oes gan bob Ysgol Gynradd mynediad i offer cegin yr ysgol. Beth am faterion Iechyd a Diogelwch nawr? Ydy hyn yn cyfyngu ar brofiadau plant Cynradd o baratoi bwyd?
A hoffech chi weld rhagor o ddarpariaethau’n cael eu hychwanegu at y mesur Cynulliad arfaethedig?
Er nad oes llawer o ysgolion PFI gyda ni yng Nghymru, mewn rhai achosion y cwmni ariannu sydd â’r hawl i redeg peiriannau gwerthu (vending machines), a’r hawl i benderfynu ar eu cynnwys. Hoffai UCAC weld y Mesur yn newid hyn i sicrhau bod rhaid i’r peiriannau hyn, hefyd, ddarparu diodydd / byrbrydau iach, yn unig. Mynegodd UCAC y pryder hwn wrth ymateb i’r ymgynghoriad gwreiddiol.
Ydych chi’n credu y bydd y Mesur Cynulliad arfaethedig yn cyflawni ei ddiben a’i nod cyffredinol, h.y. i alluogi datblygiad a gweithrediad polisi cyfannol, cynhwysfawr, wedi’i wneud yng Nghymru ar faeth mewn ysgolion?
Ydyn. Ond rhaid cofio does dim modd Deddfu bod rhaid i blant a phobl ifainc fwyta’r hyn a ddarperir gan yr ysgol. Annog yw’r unig beth gall ysgol wneud. Mae’r Mesur, felly’n sicr o ddatblygu polisi cyfannol a chynhwysfawr ond anoddach yw rhagweld beth fydd yr ymateb wrth y disgyblion ac felly beth fydd gweithrediad y polisi.
Mae angen sicrhau pethau eraill hefyd os ydym am weld newidiadau parhaol, yn y tymor hir. Mae’n rhaid atgyfodi pwysigrwydd sgiliau Coginio / Technoleg bwyd. Ar hyn o bryd nid oes un Coleg yng Nghymru yn cynnig cwrs ar gyfer darpar athrawon Coginio / Bwyd. Mae angen darparu cwrs Bwyd Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon mewn Colegau a beth am i Lywodraeth y Cynulliad ystyried Bwrsari (Golden Hello) i ddenu pobl i addysgu yn y maes? Beth am ariannu cwrs secondiad i’r sawl byddai’n dymuno arall gyfeirio?
Pa werth sydd i ddarparu bwyd iach i’n disgyblion os nad ydym yn eu haddysgu sut i baratoi prydau bwyd iach ar ôl gadael yr ysgol? Ac nid yw dysgu’r theori iddynt mewn gwersi ABCh ac Ymarfer Corff yn mynd i fod yn ddigon i sicrhau eu bod yn gallu coginio!
Mehefin 2008
UCAC