Cynulliad Cenedlaethol Cymru

HES 7 - Llywodraethwyr Cymru Atodiad

Ymgynghoriad - Cynigion ar gyfer y Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion

Mae Llywodraethwyr Cymru’n croesawu’r cyfle i wneud sylwadau ar y cynigion ar gyfer y Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion ac yn cyflwyno’r sylwadau canlynol:-

1.Ydych chi’n meddwl y bydd y Mesur arfaethedig yn hybu dull cyfannol “ysgol gyfan” o drin bwyta’n iach? A oes unrhyw bwerau ychwanegol y gellid eu cynnwys yn y Mesur i hybu’r dull hwn ymhellach mewn ysgolion?

Mae Llywodraethwyr Cymru yn cefnogi’r cysyniad o ymagwedd holistaidd tuag at fwyta’n iach mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac mewn meithrinfeydd, fel y nodir yn y cynnig.

2.Mae’r Mesur arfaethedig yn darparu ar gyfer Rheoliadau a fydd yn manylu ar safonau o ran maeth y bydd Gweinidogion Cymru’n eu cyflwyno. Ydych chi’n meddwl y bydd y dull cynyddrannol hwn o weithredu’n sicrhau na fydd cyflymder y diwygiadau’n estroni plant, phobl ifanc a rhieni?

Mae Llywodraethwyr Cymru’n croesawu ymagwedd gam wrth gam; mae gwersi i’w dysgu oddi wrth y profiad yn Lloegr.

3.A oes unrhyw bwerau ychwanegol y dylid eu hychwanegu at y Mesur arfaethedig a fyddai’n gwella bwyta’n iach ymhellach mewn ysgolion?

Mae angen cynnwys gweithgareddau Cymdeithasau Rhieni Athrawon pan fyddant yn gwerthu diodydd a melysion wrth drefnu gweithgareddau fel discos. Efallai mai dyna yw bwriad cymal 7(7)(b) o’r Mesur.

4.A yw’r Mesur arfaethedig yn hybu’n foddhaol egwyddorion datblygu cynaliadwy yn narpariaeth bwyd ysgol iach?

Mae cyfeiriadau yn y mesur at yr egwyddor o ddatblygiad cynaliadwy braidd yn brin.

5.Ydych chi’n cytuno â’r dyletswyddau, y cyfrifoldebau a’r gofynion adrodd a gynigir yn y Mesur ar gyfer penaethiaid a llywodraethwyr? A fydd y gofynion hyn yn sicrhau y ceir cynnydd â gwella bwyta’n iach mewn ysgolion?

Bydd rhaid i’r rheoliadau sydd i’w cynhyrchu ar ddyletswydd ysgolion i adrodd gymryd i ystyriaeth y ffaith mai’r corff llywodraethu ac nid y pennaeth sydd yn gorfod cynhyrchu adroddiad blynyddol i rieni ar weithgarwch cyffredinol yr ysgol, a dylai camau i hyrwyddo bwyta’n iach fod yn rhan o’r adroddiad. Gall hefyd fod yn briodol i’w gwneud yn ofynnol i ysgolion gynhyrchu polisi bwyd yn ymgorffori egwyddorion bwyta’n iach.

6.Ydych chi’n meddwl bod y dyletswyddau, y cyfrifoldebau a’r gofynion adrodd a gynigir ar gyfer Aelodau’r Cynulliad, Awdurdodau Addysg Lleol a'r Prif Arolygydd Ysgolion yn ddigonol i gael effaith gadarnhaol ar weithredu a monitro bwyta'n iach mewn ysgolion?

Ydy, cyn belled â’u bod yn cael eu gweithredu’n gyson!

7.Fe ddaw cost ariannol o ganlyniad i’r cynigion yn y Mesur i ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdodau Addysg Lleol, ysgolion ac, i raddau llai, Estyn. A fydd y cynigion hyn yn golygu y daw costau ariannol i ran eich sefydliad chi, ac os felly, beth fydd y costau hyn? (dywedwch faint fydd y costau).

Bydd angen i Lywodraethwyr Cymru gymryd y Mesur hwn i ystyriaeth yn y cyngor a roddir i lywodraethwyr mewn unrhyw gyhoeddiadau a gynhyrchir gan Lywodraethwyr Cymru ac mewn ymatebion i faterion a godir gan lywodraethwyr, ond nid yw’n ymarferol rhagweld cost ariannol hyn.