[g]wneud darpariaeth ynglyn â threfniadau ar gyfer gwneud iawn mewn perthynas ag atebolrwydd mewn camwedd mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.
Gall y Cynulliad sefydlu pwyllgorau ar fesurau arfaethedig yn ôl y galw. Bydd y pwyllgorau hyn yn craffu ar fesurau arfaethedig ac yn cyflwyno adroddiadau arnynt.