Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru)

Mesur Arfaethedig Aelod a gyflwynwyd gan Dai Lloyd AC.

Diben y Mesur Arfaethedig

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch ymgysylltiad cymunedau â phenderfyniadau gan awdurdodau lleol yng Nghymru a ddylid gwaredu caeau chwarae; ac at ddibenion cysylltiedig.

Cyfnod Presennol y Mesur

Mae'r Mesur yng Nghyfnod 2 ar hyn o bryd. Mae esboniad o beth sy'n digwydd ym mhob cyfnod i'w gael yn yr Arweiniad i Fesurau.

Cofnod o Daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynod Dyddiad
Cyflwyno’r Mesur 18 Gorffennaf 2008
Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol* 9 Rhagfyr 2008
22 & 29 Ionawr 2009
5, 12 & 26 Chwefror 2009
5 & 19 Mawrth 2009
2 Ebrill 2009
Cyfnod 1 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol 1 Gorffennaf 2009
Cyfnod 2 – Pwyllgor yn ystyried y diwygiadau
Cyfnod 3 – Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y diwygiadau
Cyfnod 4 – Pasio’r Mesur yn y Cyfarfod Llawn
Dyddiad Cymeradwyaeth Frenhinol

* Y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1

Dogfennau Perthnasol

Gellir gweld y dogfennau sy’n gysylltiedig â’r Mesur arfaethedig hwn yn Dogfennau perthnasol.

Y Mesur Arfaethedig a'r Memorandwm Esboniadol

Y Pwyllgor - Cyfnod 1

Y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 wedi ystyried trafodion Cyfnod 1 a Bydd yn ystyried trafodion Cyfnod 2 y Mesur Arfaethedig Cludo Gwastraff i'w Adfer (Ymgysylltiad Cymunedau â'r Trefniadau) (Cymru)

Aelodau'r Pwyllgor

Agendâu, Papurau a Thrawsgrifiadau (Rhagfyr 2008 - Ebrill 2009)

Cyfnod 1

Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny.

Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth (PDF, 33KB), sydd bellach wedi cau. Gellir gweld yr ymatebion a dderbyniwyd yn yr ymatebion ymgynghoriad a dderbyniwyd.

Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar y Cyfnod Cyntaf (PDF, 342KB) ar 29 Ebrill 2009.

Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunod y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r dadl ar y cam cyntaf y Cyfarfod Llawn ar 1Gorffennaf 2009.

Cyfnod 2

Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl.

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 2 Gorffennaf 2009. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn: Gwelliannau Cyfnod 2.

Cyfnod 3

Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:

Nid ydym wedi cyrraedd y cyfnod hwn eto

Cyfnod 4

Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig.

Nid ydym wedi cyrraedd y cyfnod hwn eto.

Y cyfnod cyn cyflwyno

Cyn cyflwyno i'r Cynulliad, cynhaliodd Dai Lloyd AC ymgynghoriad ar y Mesur arfaethedig drafft.