Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mesur Arfaethedig Cludo Gwastraff i'w Adfer (Ymgysylltiad Cymunedau â'r Trefniadau) (Cymru)

Mesur Arfaethedig Aelod a gyflwynwyd gan Nerys Evans AC.

Diben y Mesur Arfaethedig yw

Mesur yn ei gwaneud yn ofnnol i awdurdodau lleol ystyried ac adrodd ar inter alia, effaith amgylcheddol a chymdeithasol defnydd terfynol a chyrchfan derfynol y deinyddiau ailgylchadwy a gesglir gan awdurdodau lleol.

Cyfnod Presennol y Mesur

Mae'r Mesur yng Nghyfnod 1 ar hyn o bryd. Mae esboniad o beth sy'n digwydd ym mhob cyfnod i'w gael yn yr Arweiniad i Fesurau.

Eitemau newyddion cysylltiedig

Ceir eitemau newyddion a baratowyd gan y Cynulliad mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth hon yn yr adran ar gyfer Dogfennau perthnasol.

Y Mesur Arfaethedig a'r Memorandwm Esboniadol

Y Pwyllgor - Cyfnod 1

Sefydlwyd pwyllgor parhaol, sef Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1, ar 26 Tachwedd 2008. Bydd yn ystyried trafodion Cyfnod 1 y Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru)

Aelodau'r Pwyllgor

Agendâu, Papurau a Thrawsgrifiadau

Cyfnod 1

Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny.

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth, sydd bellach wedi cau. Gellir gweld yr ymatebion a dderbyniwyd yn yr ymatebion ymgynghoriad a dderbyniwyd.

Cyfnod 2

Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl.

Nid ydym wedi cyrraedd y cyfnod hwn eto

Cyfnod 3

Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:

Nid ydym wedi cyrraedd y cyfnod hwn eto

Cyfnod 4

Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig.

Nid ydym wedi cyrraedd y cyfnod hwn eto.

Y cyfnod cyn cyflwyno

Cyn cyflwyno i'r Cynulliad, cynhaliodd Nerys Evans AC ymgynghoriad ar y Mesur arfaethedig drafft.