Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010
Mesur arfaethedig Comisiwn y Cynulliad a gyflwynwyd gan y Gwir Anrh yr Arglwydd Elis-Thomas AC, Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad.
Diben y Mesur arfaethedig
Mesur i sefydlu Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod presennol y Mesur
Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 21 Gorffennaf 2010. Mae’r Mesur erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).
Cofnod o hynt Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010
Cynod |
Dyddiad |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
* Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1
Gwybodaeth berthnasol
Cewch ragor o wybodaeth am y Mesur hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.
Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny.
Ymgynghoriad Cyhoeddus
Cyhoeddodd y Pwyllgor
alwad am dystiolaeth (PDF, 92KB), ac mae'r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben
Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunod y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r ddadl ar Gyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2010. Cytunodd y Cynulliad ar y Penderfyniad Ariannol ar 20 Ebrill 2010.
Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd iddo yn fanwl.
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 25 Mawrth 2010 a daeth i ben ar 21 Ebrill 2010.
Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yma:
|
Y cyfnod cyn cyflwyno
|
Ym mis Awst 2008, sefydlodd Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol y Panel Adolygu Annibynnol i edrych ar bob agwedd ar y cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys cyflogau a lwfansau teithio, pensiynau, llety, swyddfeydd etholaeth a staff cymorth. Cafodd adroddiad y Panel, Yn Gywir i Gymru, ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2009 ac roedd ynddo 23 o brif argymhellion ac 85 o argymhellion ategol. Cytunodd Comisiwn y Cynulliad â’r argymhellion yn llawn a gwnaeth y Llywydd ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Gorffennaf 2009.
Un o argymhellion y Panel oedd y dylai Comisiwn y Cynulliad baratoi a chyflwyno Mesur Cynulliad i sefydlu Corff Adolygu Annibynnol statudol i wneud penderfyniadau ynghylch pob agwedd ar gymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad.