Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008
Mesur arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Edwina Hart AC, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diben y Mesur yw
Gwneud darpariaeth ynglyn â threfniadau ar gyfer gwneud iawn mewn perthynas ag atebolrwydd mewn camwedd mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.
Newyddion diweddaraf
Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 9 Gorffennaf 2008. Mae’r Mesur arfaethedig erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).
Cofnod o Daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008
Cyfnod |
Dyddiad |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
* Y Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG
Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny:
Ymgynghoriad Cyhoeddus
Cyhoeddodd y Pwyllgor
alwad am dystiolaeth (PDF, 26KB), sydd bellach wedi cau. Gellir gweld yr ymatebion a dderbyniwyd yn yr:
Adroddiad Pwyllgor: Cam 1
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar y cyfnod cyntaf (PDF, 1.5MB) ar 24 Ionawr 2008
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r ddadl ar y cyfnod cyntaf yng Nghyfarfod Llawn 29 Ionawr 2008.
Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 30 Ionawr 2008 a ddaeth I ben ar 11 Mawrth 2008.
Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn:
Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 3 ar 12 Mawrth 2008 a ddaeth I ben ar 6 Mai 2008.
Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn:
Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig:
Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion 6 Mai 2008.