Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru)
Mesur Arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diben y Mesur Arfaethedig yw
Diben y Mesur hwn yw galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu i gyflwyno gofyniad newydd ar y GIG ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru ("yr awdurdodau perthnasol") i weithio mewn partneriaeth i baratoi, cyhoeddi a gweithredu strategaeth ar y cyd mewn perthynas â gofalwyr.
Newyddion Diweddaraf
Mae’r Mesur arfaethedig yng Nghyfnod 3 ar hyn o bryd.
Cyfnod Presennol y Mesur
Mae'r Mesur yng Nghyfnod 3 ar hyn o bryd. Gellir cael esboniad o beth sy'n digwydd ym mhob cyfnod yn yr Arweiniad i Fesurau.
Cofnod o Daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
| Cynod |
Dyddiad |
| Cyflwyno’r Mesur Arfaethedig |
25 Ionawr 2010 |
| Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol* |
3, 10, 24 Chwefror 2010 3, 10, 17, 24 Mawrth 2010 29 Ebrill 2010 13 Mai 2010 (Cyfarfod Preifat) |
| Cyfnod 1 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol |
8 Mehefin 2010 |
| Cyfnod 2 – Pwyllgor yn ystyried y diwygiadau* |
8 Gorffennaf 2010 |
| Cyfnod 3 – Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y diwygiadau |
|
| Cyfnod 4 – Pasio’r Mesur yn y Cyfarfod Llawn |
|
| Dyddiad Cymeradwyaeth Frenhinol |
|
* Y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5
Gwybodaeth perthynol
Cewch ragor o wybodaeth am y Mesur hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.
Cyfnod 1
Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny:
Ymgynghoriad Cyhoeddus
Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ymgynghori ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru), sydd bellach wedi cau ar 18 Mawrth 2010
Galwad am Dystiolaeth (PDF, 146KB)
Galwad am Dystiolaeth (HTML)
Ymatebion ymgynghoriad a dderbyniwyd
Cyflwynodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ar 21 Mai 2010.
Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1
Cyfnod 2
Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 9 Mehefin 2010 a ddaeth I ben ar 8 Gorffennaf 2010. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn: Gwelliannau Cyfnod 2.
Cyfnod 3
Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfod 3 ar 9 Gorffennaf 2010.
Cyfnod 4
Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig:
Nid ydym wedi cyrraedd y cyfnod hwn eto.