Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5
Legislation Committee No.5
Bae Caerdydd / Cardiff Bay
Caerdydd / Cardiff CF99 1NA
4 Chwefror 2010
Annwyl Syr / Fadam
Ymgynghoriad ar Fesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru)
Fel rhan o’i ystyriaeth Cyfnod 1, mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am dystiolaeth mewn perthynas ag egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr.
Beth yw Mesur?
Darn o ddeddfwriaeth a wneir gan y Cynulliad yw Mesur. Mae iddo effaith debyg i Ddeddf Seneddol. Gall y Cynulliad basio Mesurau ar unrhyw 'fater’ a restrir yn
A
todlen 5i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) yn defnyddio materion sy’n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth rhwng y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru i gynhyrchu strategaeth ar y cyd mewn perthynas â gofalwyr.
Tra bod Mesur yn mynd drwy’r Cynulliad, caiff ei alw’n 'Fesur arfaethedig’.
Mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur arfaethedig. Yn ystod Cyfnod 1, caiff egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig eu hystyried gan bwyllgor (gan gymryd tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar gan bartïon sydd â diddordeb a rhanddeiliaid) ac mae’r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny.
Beth mae’r Mesur arfaethedig hwn am ei gyflawni?
Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n gysylltiedig â’r Mesur arfaethedig yn datgan:
"Diben y Mesur hwn yw galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu i gyflwyno gofyniad newydd ar y GIG ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru ("yr awdurdodau perthnasol") i weithio mewn partneriaeth i baratoi, cyhoeddi a gweithredu strategaeth ar y cyd mewn perthynas â gofalwyr.
Bydd y strategaeth yn darparu ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor i ofalwyr ac ar gyfer ymgynghori effeithiol gan yr awdurdodau perthnasol â gofalwyr wrth wneud penderfyniadau am ddarparu gwasanaethau i ofalwyr neu i'r person y gofelir amdano, neu ar gyfer y naill neu'r llall ohonynt.”
Beth yw swyddogaeth y Pwyllgor?
Swyddogaeth Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig a chyflwyno adroddiad arnynt. Wrth wneud hyn, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i weithio o fewn y fframwaith a ganlyn:
Ystyried:
i) yr angen am Fesur arfaethedig i gyflawni’r amcanion isod:
Sicrhau bod gan ofalwyr y wybodaeth gywir ar yr adeg gywir i’w cynorthwyo gyda’u swyddogaethau gofalu.
Sicrhau bod asiantaethau statudol yn ymgysylltu’n briodol â gofalwyr fel partneriaid i ddarparu gofal, gan eu cynnwys ar bob lefel o asesu, darparu a gwerthuso trefniadau gofal.
ii) a yw’r Mesur arfaethedig yn cyflawni’r amcanion a nodwyd;
iii)prif ddarpariaethau’r Mesur arfaethedig ac a ydynt yn addas ar gyfer cyflawni amcanion y Mesur;
iv) rhwystrau posibl rhag gweithredu’r prif ddarpariaethau ac a yw’r Mesur arfaethedig yn eu hystyried;
v) barn y rhanddeiliaid a fydd yn gorfod gweithio gyda’r trefniadau newydd.
Sut y gallwch chi helpu - cwestiynau’r ymgynghoriad
Ceir manylion pellach am y Mesur arfaethedig a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol yn:
h
ttp://www.cynulliadcymru.org/bus_legislation_meas-csHoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o graffu ar y Mesur arfaethedig. Yn arbennig, byddai’n croesawu eich sylwadau ar y pwyntiau a restrir yn
Atodiad 1.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad i L
egislationoffice@wales.gsi.gov.uka rhowch Ymgynghoriad - y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr fel pennawd i’r e-bost.
Yn dilyn ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 wrth graffu ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) 2009 (ynglŷn â Gofalwyr), mae'r Pwyllgor yn awyddus i'r rhai sydd am anfon ymateb i'r ymgynghoriad beidio â dyblygu gwaith. Os ydych yn credu bod eich ymateb i'r ymgynghoriad ar y Gorchymyn hefyd yn berthnasol i'r Mesur, a fyddech cystal â nodi hynny yn eich ymateb i'r ymgynghoriad. Fel arall, efallai y byddwch am roi rhagor o dystiolaeth gan fod manylion llawn y cynigion sydd yn y ddeddfwriaeth bellach ar gael i'w hystyried.
Fel arall, gallwch ysgrifennu at:
Leanne Hatcher, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, Y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 18 Mawrth 2010. Efallai na fydd yn bosibl ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses ddeddfwriaethol yn:
h
ttp://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-legislation-guidance/bus-legislation-guidance-measures.htm
Wrth baratoi eich tystiolaeth, dylech ystyried y pwyntiau a ganlyn:
dylai eich ymateb fynd i’r afael â’r materion sydd gerbron y Pwyllgor. Defnyddiwch y pennawd uchod fel cyfeirnod i’ch ymateb;
bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel arfer yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar gael i’r cyhoedd graffu arnynt ac efallai y bydd Aelodau’r Cynulliad yn eu gweld a’u trafod yn ystod cyfarfodydd pwyllgor hefyd. Os nad ydych am i ni gyhoeddi eich ymateb neu’ch enw, mae’n bwysig eich bod yn nodi hyn yn glir wrth gyflwyno’ch tystiolaeth;
nodwch a ydych yn ymateb ar ran sefydliad, neu fel unigolyn;
nodwch a fyddech yn barod i roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig yn ystod tymor y gwanwyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Bethan Davies, Clerc y Pwyllgor, ar 029 2089 8120 neu Leanne Hatcher, y Dirprwy Glerc, ar 029 2089 8147.
Yn gywir
Mark Isherwood AC
Cadeirydd y Pwyllgor
Atodiad 1
Cwestiynau i’r ymgynghoriad
1. A oes angen gwneud deddfwriaeth (trwy Fesur Cynulliad) sy’n gofyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ac awdurdodau lleol yng Nghymru ("yr awdurdodau perthnasol”) weithio mewn partneriaeth i baratoi, cyhoeddi a gweithredu strategaeth ar y cyd mewn perthynas â gofalwyr? Os oes, pam? Os na, pa ddewis arall fyddech chi’n ei gynnig?2. A yw adrannau’r Mesur arfaethedig yn briodol o ran diwygio deddfwriaeth sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth a chyngor i ofalwyr? Os na, ym mha ffordd mae angen newid y Mesur arfaethedig?
Wrth ystyried y cwestiwn hwn, efallai y byddwch am ystyried natur darpariaethau’r Mesur arfaethedig, a fanylir isod: (a) Y diffiniad o 'wybodaeth briodol a chyngor priodol’ fel y’i diffinnir yn y Mesur (Adran 3); (b) Rhaid i Awdurdodau Lleol sicrhau, tra’n penderfynu pa wasanaethau y maent yn eu darparu i, neu ar gyfer y gofalwr, neu’r unigolyn y gofelir amdano, eu bod yn ymgynghori â’r gofalwr. Mae gofyn i awdurdodau sicrhau hefyd eu bod yn ymgynghori â gofalwyr cyn gwneud penderfyniadau mwy cyffredinol am ddarparu gwasanaethau i, neu ar gyfer y gofalwr a’r unigolion y gofelir amdanynt. (Adrannau 2 (1) (b) a (c)); (c) Bydd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch y canlynol:i. y gwasanaethau y mae'r ddyletswydd i baratoi strategaeth yn gymwys iddynt;
ii. y materion sydd i'w trin yn y strategaeth;
iii. sut a phryd y mae'r strategaeth i'w chyhoeddi;
iv. adolygu'r strategaeth yn gyson (gan gynnwys pennu cyfnod ar gyfer adolygu neu amnewid y strategaeth ar ei ôl);
v. yr ymgynghori y mae'n rhaid ymgymryd ag ef cyn ac yn ystod paratoi, gweithredu neu adolygu'r strategaeth;
vi. trefniadau i fonitro a gwerthuso'r broses o weithredu'r strategaeth;
(Adran 5 (2) (a)-(f)); (ch) Bydd modd i Weinidogion Cymru ddynodi, ar gyfer pob strategaeth, gorff GIG yn awdurdod arweiniol i gydlynu a goruchwylio’r gwaith o baratoi a chyhoeddi'r strategaeth, a chydlynu a goruchwylio unrhyw adolygiad dilynol ohoni. (Adran 5 (3)); (d) Hefyd, bydd y Mesur arfaethedig yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod arweiniol neu, pan nad oes awdurdod arweiniol wedi ei bennu, yr awdurdodau cyfrifol sy’n gweithredu ar y cyd, i gyflwyno'r strategaeth i Weinidogion Cymru. Wedyn, bydd rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdodau cyfrifol eu bod yn fodlon â'r strategaeth ddrafft neu, os nad ydynt yn fodlon, rhoi pa gyfarwyddiadau bynnag sydd eu hangen i'r awdurdodau er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn cydymffurfio â'u gofynion. (Adran 6) 3. Sut y bydd y Mesur arfaethedig yn newid yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud ar hyn o bryd a beth fydd effaith newidiadau o’r fath, os o gwbl? 4. Beth yw’r rhwystrau posibl o ran gweithredu darpariaethau’r Mesur arfaethedig (os oes rhai) ac a yw’r Mesur arfaethedig yn eu hystyried? 5. Beth yw goblygiadau ariannol y Mesur arfaethedig ar sefydliadau, os oes rhai? Wrth ateb y cwestiwn hwn, efallai yr hoffech ystyried Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol (Asesiad Effaith Rheoleiddiol), sy’n amcangyfrif y costau a’r manteision o weithredu’r Mesur arfaethedig.6. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud am adrannau penodol o’r Mesur arfaethedig?
Is-ddeddfwriaeth
7. Beth yw eich barn am bwerau yn adran 8 sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth?
8. Mae cwestiwn 2(c) uchod yn amlinellu’r pwerau i wneud rheoliadau (is-ddeddfwriaeth) y byddai’r Mesur arfaethedig yn ei roi i Weinidogion Cymru. Cynigir y bydd yr holl bwerau hyn yn cael eu harfer yn unol â’r 'weithdrefn negyddol’
1.
A oes cydbwysedd priodol rhwng y darpariaethau a nodir yn y Mesur a’r pŵer a ddirprwyir i Weinidogion Cymru er mwyn amlinellu manylion y gofynion sydd i’w gosod ar yr awdurdodau priodol yng Nghymru trwy is-ddeddfwriaeth? A yw defnyddio’r weithdrefn negyddol yn briodol ym mhob achos neu a oes pwerau sy’n ddigonol i’r weithdrefn gadarnhaol gael ei defnyddio?
Nodi:
1 Mae’r weithdrefn hon yn galluogi Gweinidogion i wneud is-ddeddfwriaeth heb gymeradwyaeth gan y Cynulliad, er y gall y Cynulliad ddirymu’r ddeddfwriaeth dan sylw trwy bleidlais. Fel arall, gellir defnyddio’r 'weithdrefn gadarnhaol’ i sicrhau na all is-ddeddfwriaeth ddod i rym hyd nes i’r Cynulliad bleidleisio i’w chymeradwyo.
