Mesur Tai (Cymru) 2011
Mesur arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio.
Diben y Mesur Arfaethedig
Mae’r Mesur arfaethedig ynghylch Tai yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn bosibl i ddarparu tai fforddiadwy mewn modd effeithiol yng Nghymru. Mae dwy elfen i’r Mesur arfaethedig:
Bydd y Mesur arfaethedig yn mynd i’r afael â’r ymrwymiad a wnaed yn nogfen clymblaid
Cymru’n Un
er mwyn caniatáu i awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru i atal dros dro yr Hawl i Brynu, yr Hawl i Brynu a Gadwyd, a’r Hawl i Gaffael a feddir gan denantiaid darparydd tai cymdeithasol yng Nghymru, mewn ardaloedd o dan bwysau oherwydd prinder tai.Bydd y Mesur arfaethedig hefyd yn rhoi rhagor o bwerau rheoleiddio a phwerau ymyrraeth i Weinidogion Cymru o ran darpariaeth tai gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Cyfnod presennol y Mesur
Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Mai 2011. Mae’r Mesur erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).
Cofnod o hynt Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod |
Dyddiad |
|---|---|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
* Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2
Gwybodaeth berthnasol
Cewch ragor o wybodaeth am y Mesur hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.
