Mesur ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru)
Mesur Arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Dr Brian Gibbons AC y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llwyodraeth Leol
Diben y Mesur Arfaethedig
Mae'r Mesur ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru) yn gwneud darpariaeth statudol, drwy fframwaith deddfwriaethol, i fynd ati i wireddu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran tlodi plant, ac i fynd ati'n fuan i ddatblygu ei strategaeth ar gyfer plant agored i niwed drwy ddwyn ymlaen ddeddfwriaeth i ddarparu mwy o gymorth i deuluoedd sydd, o bosibl, â phlant mewn perygl, a gorfodaeth reoleiddiol gryfach mewn lleoliadau plant.
Cofnod o Daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
| Cynod |
Dyddiad |
| Cyflwyno’r Mesur |
2 Mawrth 2009 |
| Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol* |
11 & 25 Mawrth 2009 1 & 30 Ebrill 2009 7, 11, 14 & 21 Mai 2009 4 & 11 Mehefin 2009 |
| Cyfnod 1 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol |
30 Mehefin 2009 |
| Cyfnod 2 – Pwyllgor yn ystyried y diwygiadau * |
1 Hydref 2009 |
| Cyfnod 3 – Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y diwygiadau |
10 Tachwedd 2009 |
| Cyfnod 4 – Pasio’r Mesur yn y Cyfarfod Llawn |
10 Tachwedd 2009 |
| Dyddiad Cymeradwyaeth Frenhinol |
10 Chwefror 2010 |
* Y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2
Cyfnod 2
Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 1 Gorffennaf 2009. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn Gwelliannau Cyfnod 2.
Cyfnod 3
Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 3 ar 2 Hydref 2009. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn: Gwelliannau Cyfnod 3.