Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru)

Gwelliannau Cam 2

Ystyried gwelliannau

Ar ôl i’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, dechreuodd Cyfnod 2 ar 1 Gorffennaf 2009. Gellir cyflwyno gwelliannau yn awr i'r Mesur arfaethedig (fel y’i cyflwynwyd).

Yn unol â Rheol Sefydlog 23.34 penderfynodd y pwyllgor gwblhau’r gwelliannau i’r Mesur arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru) yn y drefn a ganlyn:
Adrannau 1-12; Adrannau 13-48; Adrannau 49-58; Adrannau 59-64; Atodlen 1; Adran 65; Atodlen 2; Adrannau 66-68; Adrannau Newydd; Teitl Hir.

Bydd cyfarfod cyntaf y pwyllgor ar Hydref 12009.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw pum diwrnod gwaith cyn y cyfarfod lle y maent i fod i gael eu hystyried.

Mae’r hysbysiadau o welliannau yn dangos gwelliannau sydd wedi’u cyflwyno ar ddyddiad penodol. Mae’r rhestri wedi’u trefnu yn dangos y gwelliannau sydd i’w hystyried mewn cyfarfod.  Mae’r ddogfen Grwpio gwelliannau yn nodi ym mha drefn y caiff gwelliannau eu trafod mewn cyfarfod penodol ac unrhyw wybodaeth berthnasol yn ymwneud â’r gweithdrefnau.

Hysbysiad ynghylch gwelliannau, 22 Medi 2009
Hysbysiad ynghylch gwelliannau, 24 Medi 2009
Rhestr o welliannau mewn trefn, 1 Hydref 2009
Grwpio gwelliannau, 1 Hydref 2009

Gwybodaeth ddefnyddiol

Ceir rhagor o wybodaeth am gyflwyno gwelliannau yn ystod Cyfnod 2 ym mhenderfyniad y Llywydd ar ffurf briodol gwelliannau. (PDF, 33KB).