Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru)
Gwelliannau Cyfnod 3
Ystyried gwelliannau
Ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 2 Hydref 2009. Cyfarfu'r Pwyllgor ar 10 Tachwedd 2009 i ystyried a gwaredu'r gwelliannau i'r Mesur arfaethedig.
Mae’r hysbysiadau ynghylch gwelliannau yn dangos gwelliannau sydd wedi’u cyflwyno ar ddyddiad penodol. Mae’r rhestri wedi’u didoli yn dangos y gwelliannau sydd i’w hystyried mewn cyfarfod. Mae’r ddogfen Grwpio gwelliannau yn nodi ym mha drefn y caiff gwelliannau eu trafod mewn cyfarfod penodol ac unrhyw wybodaeth berthnasol sy'n ymwneud â’r gweithdrefnau.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Ceir rhagor o wybodaeth am gyflwyno gwelliannau yn ystod Cyfnod 3 ym mhenderfyniad y Llywydd ar ffurf briodol gwelliannau (PDF, 33KB).
