Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011
Mesur Arfaethedig Aelod a gyflwynwyd gan Ann Jones AC
Y Mesur arfaethedig
Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’w gwneud yn ofynnol i ddarparu systemau llethu tân awtomatig mewn mangreoedd preswyl newydd yng Nghymru.
Cyfnod presennol y Mesur
Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 7 Ebrill 2011. Mae’r Mesur erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).
Cofnod o hynt Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mesur Arfaethedig Diogelwch Tân Domestig (Cymru)
Cyfnod |
Dyddiad |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
* Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1
Gwybodaeth berthnasol
Cewch ragor o wybodaeth am y Mesur hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.
Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny:
Ymgynghoriad Cyhoeddus
Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth am Fesur Arfaethedig Diogelwch Tân Domestig (Cymru). Daeth cyfnod yr ymgynghoriad i ben ar 3 Medi 2010
Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar y Cyfnod Cyntaf (PDF, 764KB) ar 12 Tachwedd 2010.
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunod y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r dadl ar y cam cyntaf yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Tachwedd 2010.
Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 25 Tachwedd 2010 a ddaeth I ben ar 20 Ionawr 2011. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn:
Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddetholwyd iddo yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 3 ar 21 Ionawr 2011 a daeth i ben ar 16 Chwefror 2011. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yma:
Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig:
Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion 16 Chwefor 2011.