Mesur ynghylch Addysg (Cymru) 2009
Mesur Arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Diben y Mesur Arfaethedig yw
Diben y Mesur hwn yw ymestyn hawl plant drwy roi iddynt hawliau i wneud apelau anghenion addysgol arbennig (AAA) a hawliadau o wahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (y Tribiwnlys). Bydd yn diwygio’r gyfraith sy’n rhoi i rieni yr hawl i wneud apelau a hawliadau i’r Tribiwnlys.
Newyddion diweddaraf
Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 9 Rhagfyr 2009. Mae’r Mesur arfaethedig erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).
Cofnod o Daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
| Cynod |
Dyddiad |
| Cyflwyno’r Mesur Arfaethedig |
27 Ebrill 2009 |
| Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol* |
7, 14 & 21 Mai 2009 4, 11 & 25 Mehefin 2009 (cyfarfod preifat) |
| Cyfnod 1 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol |
14 Gorffennaf 2009 |
| Cyfnod 2 – Pwyllgor yn ystyried y diwygiadau * |
1 Hydref 2009 |
| Cyfnod 3 – Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y diwygiadau |
3 Tachwedd 2009 |
| Cyfnod 4 – Pasio’r Mesur yn y Cyfarfod Llawn |
3 Tachwedd 2009 |
| Dyddiad Cymeradwyaeth Frenhinol |
9 Rhagfyr 2009 (Saesneg yn unig) |
* Y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3
Cyfnod 2
Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl.
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 1 Gorffennaf 2009 a ddaeth I ben ar 1 Hydref 2009. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn Gwelliannau Cyfnod 2
Cyfnod 3
Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 3 ar 2 Hydref 2009 a ddaeth I ben ar 3 Tachwedd 2009. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn: Gwelliannau Cyfnod 3.
Cyfnod 4
Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig.
Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion 3 Tachwedd 2009.