Mesur Arfaethedig Llywodraeth Leol (Cymru)
Mesur Arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Dr Brian Gibbons AC, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Diben y Mesur yw diwygio’r sail statudol ar gyfer gwella gwasanaethau a chynllunio strategol gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r Mesur yn cysylltu llesiant a chynllunio cymunedol â gwella gwasanaethau. Mae’r Mesur yn ailddiffinio dyletswyddau sylfaenol i roi cyfrif am welliannau. Bydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i bartneriaid lleol gydweithredu wrth sicrhau canlyniadau strategol cymunedol ac ymgysylltu â dinasyddion.
Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yb ystod y trafodion Cyfnod 4 ar 28 Ebrill 2009. Mae esboniad o beth sy'n digwydd ym mhob cyfnod i'w gael yn yr Arweiniad i Fesurau.
Ceir eitemau newyddion a baratowyd gan y Cynulliad mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth hon yn yr adran ar gyfer Dogfennau perthnasol
Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru) fel y'i cyflwynwyd ar 22 Medi 2008, a Memorandwm Esboniadol.
Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru) fel y diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2 (Caiff y gwelliannau i’r Mesur ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen. Lle bynnag y bo’n bosibl, defnyddir y rhifau gwreiddiol ar gyfer y darpariaethau a oedd yn y Mesur fel y’i cyflwynwyd)
Memorandwm Esboniadol, diwygiwyd ar ol Cyfnod 2.
Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru), fel y'i pasiwyd
Sefydlwyd Pwyllgor parhol sef Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4, ar 4 Chwefror 2009.
Bydd yn ystyried trafodion Cyfnod 2 y Mesur Arfaethedig ynghylych Llywodraeth Leol (Cymru)
Agendau, Papurau a Thrawsgrifiadau (Chwefror - Mawrth 2009)
Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru)
Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny:
Pwyllgor Cyfnod 1
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 4 Chwefror 2009 i ystyried egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig. Bydd y Pwyllgor yn dod i ben os bydd y Mesur arfaethedig yn pasio, yn cael ei wrthod neu’n cael ei dynnu’n ôl, neu os caiff Pwyllgor arall ei sefydlu i ymdrin â thrafodion cyfnod 2 o dan Reol Sefydlog 23.31(ii).
Agendâu, Papurau a Thrawsgrifiadau
Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth, sydd bellach wedi cau. Gellir gweld yr ymatebion a dderbyniwyd yn yr ymatebion ymgynghoriad a dderbyniwyd
Cynhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar y Cyfnod Cyntaf ar 26 Ionawr 2009
Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl.
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 4 Chwefror 2008. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn Gwelliannau Cyfnod 2.
Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 3 ar 6 Mawrth 2009. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn Gwelliannau Cyfnod 3.
Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig.
Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion Cyfnod 4 ar 28 Ebrill 2009