LG26 - Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol

Ruth Hatton,
Dirprwy Glerc y Cynulliad,
Y Swyddfa Ddeddfwriaeth,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd.
CF99 1NA

27/11/2008

Annwyl Janice Gregory AC,

Ymgynghoriad y Pwyllgor Llywodraeth Leol: Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru)

Yn atodedig cynhwysir tystiolaeth gryno gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg

yn ystyried egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru).  Trafodwyd y mesur arfaethedig yng nghyfarfod llawn o’r Bwrdd heddiw a chynigiwn y sylwadau cyffredinol canlynol:

  • Rydym yn cytuno â’r egwyddor o gydweithio rhwng rheoleiddwyr ar y cyfan ond, fel y gwelir o’n hymateb i’r mesur, mae  gennym bryderon am  achosion o aneglurder swyddogaethau, yn arbennig o safbwynt y cyplysiad rhwng swyddogaethau a dyletswyddau statudol y Bwrdd a swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r Archwiliwr Cyffredinol. Ym marn y Bwrdd y Ddeddf Iaith sy’n dynodi swyddogaethau’r Bwrdd ac ni fedrwn ragweld sefyllfa lle byddai’n briodol i Swyddfa Archwilio Cymru ddweud wrth y Bwrdd ‘sut i arfer ei swyddogaethau’ .

  • Yn sgil ein cyfarfod mynegwn ein anhapusrwydd nad yw’r Llywodraeth wedi trafod rhai o elfennau’r mesur drafft ymlaen llaw gyda’r Bwrdd – yn arbennig gan fod potensial i rai ohonynt gael effaith bellgyrhaeddol ar ein gwaith monitro a’n gwaith statudol.

  • Mae angen eglurdeb ynglyn â phwerau a gofynion y mesur mewn perthynas â grymoedd Deddf yr Iaith Gymraeg – fel arall mae perygl o ddryswch a dyblygu mewn rhai meysydd.  

  • Rydym yn hyderus y gall y mesur hwyluso ymdrechion i wella gwasanaethau Cymraeg o ystyried y pwyntiau uchod ac y gall hefyd  gynorthwyo’r Llywodraeth i weithredu ei dyletswyddau o dan is –adran (1),  cymal 78 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.  

Byddem fel aelodau’n barod iawn i gyflwyno tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig. Yn ogystal â hynny nodwn ein bwriad i agor trafodaethau  gydag eraill ar y Mesur er mwyn bodloni ein hunain fel Bwrdd y bydd ein gwaith yn cael ei ategu gan y mesur yn hytrach na’i danseilio.

Yr eiddoch yn gywir,

Meri Huws
Cadeirydd

Ymgynghoriad y Pwyllgor Llywodraeth Leol: Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru)

Pwynt 3 (a):   Priodoldeb adrannau’r mesur  ar gyfer gwella a strategaethau cymunedol: dyletswyddau ar awdurdodau gwella Cymreig.

Adran 2 – dyletswydd cyffredinol mewn perthynas â gwella

Caiff 7 maes gwella ei nodi yn y mesur (a’u trafod yn adrannau 2; 3; a 4).  Awgrymir hefyd fwriad i ychwanegu at y meysydd gydag amser yn adran 7 “agweddau ar wella: diwygio”.

Nid yw’r iaith Gymraeg yn gynwysedig.  Dogfennau statudol yw cynlluniau iaith Gymraeg, ac y mae’n rhaid i bob Awdurdod Gwella Cymreig feddu ar gynllun iaith. Maent yn datgan wrth y cyhoedd sut y bydd sefydliad yn gwella gwasanaethau Cymraeg hyd nes eu bod yn cael eu darparu ar sail gydradd â gwasanaethau Saesneg. Mae’n ymddangos yn anghyson i’r Bwrdd fod deddfwriaeth Brydeinig yn cynnwys gofynion ar gyfer sicrhau gwelliannau ym maes yr iaith Gymraeg gan Awdurdodau Gwella Cymreig ond bod mesur Cymreig sydd a’i briod swyddogaeth yn ymwneud â gwella yn fud ar faterion iaith. Fel egwyddor cred y Bwrdd y dylid cynnwys iaith fel maes gwella.  Byddai hyn yn gyson ag adran 78 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.  Byddai wedyn hefyd yn fesur mwy rhesymegol o safbwynt cyplysiad rhwng y meysydd gwella a’r rheoleiddwyr a enwir yn adran 16 gan y cynhwyswyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg fel rheoleiddiwr.  

Pwynt 3 (c ):   Priodoldeb adrannau’r mesur  ar gyfer gwella  a strategaethau cymunedol: casglu, defnyddio a chyhoeddi gwybodaeth am berfformiad

Adran 8 – Dangosyddion perfformiad a safonau

Pwer i Weinidogion i bennu ffactorau perfformiad (trwy orchymyn).  

Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, y Bwrdd ac nid Gweinidogion Cymru,  sy’n cytuno cynllun iaith gan gynnwys mesurau perfformiad a safonau  gwasanaeth.  Dim ond mewn achos o anghytundeb y mae Gweinidogion Cymru yn ymyrryd ynglyn â chynnwys cynllun iaith Gymraeg.   Mae aneglurder ynghylch swyddogaethau yn bodoli ar y pwynt hwn ac fe ddylid  ystyried y mater mewn modd fydd yn sicrhau y bydd swyddogaethau statudol y Bwrdd yn cael eu hategu ac nid eu tanseilio wrth bennu ffactorau perfformiad.  Gan y cynhwyswyd y Bwrdd fel rheoleiddiwr yn adran 16 y mesur, credwn byddai’n rhesymegol o safbwynt cyplysiad cynnwys y Gymraeg yn rhestr adran 8(5) ac ystyried yr angen i ddatblygu dangosyddion perfformiad addas yn sgil hynny.      

Pwynt 3 (d) pennu swyddogaethau rheoleiddwyr perthnasol

Adran 16:  ystyr ‘rheoleiddwyr perthnasol’ ac ystyr  ‘swyddogaethau perthnasol’

Yn y mesur drafft yr ymgynghorir arno cynhwysir y Bwrdd o fewn cwmpas y mesur ond serch hynny, mae swyddogaethau’r Bwrdd wedi eu cyfyngu i adran 17,  Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.   Golyga hyn yw nad yw’r broses o baratoi a chymeradwyo cynllun iaith (sy’n broses gwella gwasanaeth ac ymrwymo i gyhoeddi  gwybodaeth, pennu targedau ac ati) yn cael ei chyfrif fel  ffactor berthnasol o fewn y broses wella gwasanaethau.    

Byddai cyfyngu ymwneud y Bwrdd i swyddogaethau cydymffurfiaeth yn unig yn anodd i’w weithredu. Hyd yn oed pe byddid yn cyfyngu ymwneud y Bwrdd  i ymchwiliadau statudol yn unig, fe fyddai angen cyfeirio at holl adrannau cydymffurfiaeth y Ddeddf Iaith sef adrannau 17 hyd at 20.  Byddwn yn croesawu trafodaeth ar y swyddogaethau y bwriedir eu cynnwys o dan yr adran hon.  

Mae angen diffinio’r gwahaniaeth rhwng rheoleiddiwr ac arolygydd a beth, yn wyneb hynny yw’r gwahaniaeth yn y pwerau sydd ganddynt.  Yn ogystal, dylid ystyried swyddogaeth eiriol fel rhan o raglen gwella’r mesur oherwydd y mae adran 18, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn rhoi i Fwrdd yr Iaith Gymraeg swyddogaeth sy’n ymdebygu i Ombwdsmon.

Adran 18   asesiad gwella – cymryd sylw o adroddiadau  oddi wrth reoleiddwyr ac arolygwyr eraill

Mae’r Bwrdd yn croesawu’r symudiad hwn lle bydd Archwilwyr eraill yn cymryd sylw o  adroddiadau gaiff eu paratoi gan y Bwrdd.  Cawsom brofiadau lle fo  canlyniad ymchwiliad gennym yn dod ar draws materion perfformiad nad ydynt yn dod o dan ein cylch gorchwyl ond yn faterion  oedd yn cyfrannu  tuag at wendidau mewn darpariaeth gwasanaeth iaith Gymraeg. Yn ogystal  mae hefyd yn hollbwysig prif ffrydio canfyddiadau am ddiffygion mewn perfformiad o safbwynt darparu gwasanaethau Cymraeg i ganol yr agenda wella.  Gall mabwysiadu’r egwyddor hon, o’i gweithredu ar lefel dydd i ddydd,  gefnogi cynnydd ym maes darpariaeth Gymraeg gan yr awdurdodau gwella Cymreig.  

Adran 22 – Arolygiadau Arbennig

Mae’r Bwrdd yn croesawu creu pwer i Weinidog dros Dreftadaeth i gyfarwyddo Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal arolygiad arbennig. Serch hynny  yr arfer cyfredol fyddai cyfarwyddo’r Bwrdd fel rhan o’r berthynas nawdd. Mae angen  egluro’r gydberthynas a chroesawn drafodaeth gyda Llywodraeth y Cynulliad er mwyn sicrhau eglurdeb ar y pwynt hwn.  

Pwynt 3 (d) pennu swyddogaethau rheoleiddwyr perthnasol a

Pwynt 5: goblygiadau ariannol

Adran 19  - ategu asesiadau adran 18  Caniatáu i’r Archwilydd Cyffredinol  ‘ei gwneud yn ofynnol  i reoleiddwyr perthnasol  gynhyrchu adroddiadau  sy’n amlinellu’r hyn maen nhw wedi ei ganfod  wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol’

Er ein bod yn croesawu’r egwyddor o gydweithio agosach rhwng rheoleiddwyr, gall fod goblygiadau cost ac adnoddau ychwanegol a sylweddol o weithredu’r adran hon.  Rydym yn siomedig felly nad yw’r agwedd hon wedi cael ei thrafod ymlaen llaw gyda’r Bwrdd a chyn cyhoeddi’r mesur drafft.  Mae gan y Bwrdd ddyletswyddau statudol a rhaglen waith a gytunir gyda Llywodraeth y Cynulliad a gallai disgwyliadau ychwanegol sylweddol effeithio’n andwyol ar allu’r Bwrdd i gyflawni ei nodau ac amcanion strategol.  A fyddai ffioedd neu adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu er mwyn cynorthwyo’r Bwrdd ac eraill i gwrdd â gofynion adran 19?

Credwn felly fod angen ystyried y gofynion hyn yn ofalus a byddwn yn croesawu trafodaeth gyda’r Llywodraeth ar y mater.  Credwn hefyd gallai trafodaeth gyda’r Archwilydd Cyffredinol fod yn ddefnyddiol er mwyn dod i ddealltwriaeth a sicrhau fod y gofynion i ddarparu gwybodaeth yn briodol a ddim yn gosod disgwyliadau afresymol ar adnoddau’r Bwrdd.  Argymhellwn fod Llywodraeth y Cynulliad yn hwyluso unrhyw drafodaethau cychwynnol gyda rheoleiddwyr.     

Adran 20  - adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesu.  

Rydym wedi ystyried i ba raddau y byddai’r Bwrdd yn gallu cydweithio o fewn yr amserlen a gynigir,  ar ei gost ei hun, ac o fewn ei adnoddau cyfredol.  Nid yw’n bosibl i’r Bwrdd ymrwymo i amserlen gaeth heb  dderbyn adnoddau ychwanegol.  Fel nodwyd  o dan adran 19, byddair gofyniad hwn yn cael traweffaith negyddol ar raglen waith gyfredol y Bwrdd.

Adran 24  Cydlynu archwiliad.   Dyletswydd  i gydlynu swyddogaethau wrth arfer swyddogaethau rheoleiddio  - pennu amserlen ymweliadau arolygu ar gyfer pob awdurdod.  

Croesawn yr egwyddor o gydweithio, ond unwaith eto gall gweithredu’r adran hon gael effaith bellgyrhaeddol ar adnoddau’r Bwrdd (gweler ein sylwadau ar adran 19).  Mae pryder hefyd gall y mesur gyfyngu ar allu’r Bwrdd i weithredu ei ddyletswyddau statudol yn annibynnol ar reoleiddwyr eraill.  Er enghraifft mae’r Bwrdd yn gallu cynnal ymchwiliadau ar ddiffyg gweithrediad cynllun iaith o dan Adran 17, Deddf yr Iaith Gymraeg a gall ymchwilio i gwynion o dan Adran 18 y Ddeddf.  Ni fydd modd amserlennu na chydlynu’r dyletswyddau hynny gyda chynlluniau gwaith rheoleiddwyr eraill gan eu bod yn llwyr ddibynnol ar amseriad cwynion. Unwaith eto byddem yn croesawu trafodaeth er mwyn sicrhau eglurdeb ar y pwynt hwn.    

Adran 28  Ffioedd

Os yw Swyddfa Archwilio Cymru yn gofyn i sefydliad arall gynnal archwiliad neu asesiad arbennig yna  dylai drosglwyddo ffioedd a godir i’r sefydliad y mae’n gofyn iddo ymgymryd â thasg yn unol â’r raddfa gydnabyddedig neu dylai  rheoleiddwyr eraill allu codi eu ffioedd eu hunain

Pwynt 3 (f):   rhoi pwerau i Weinidogion Cymru

Adran  30  - pwerau cyfarwyddo

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau i gyrff cyhoeddus ar wahanol faterion yn ymwneud â darparu a gweithredu cynlluniau iaith Gymraeg.  Credwn fod angen trafodaeth er mwyn sicrhau fod eglurdeb ynglyn â bwriad y pwerau hyn o dan adran 30 y mesur drafft ac er mwyn sicrhau na fyddai dryswch a dyblygu yn digwydd.  

Adran 31  - pwerau cydlafurio

Os caiff pwerau cydlafurio eu hymarfer gydag awdurdodau, yna oherwydd yr effaith bosibl ar ddarpariaeth gwasanaethau iaith Gymraeg a gweinyddiad y cynlluniau iaith Gymraeg perthnasol credwn fod angen cytuno ar ddull o hysbysu neu ymgynghori gyda’r Bwrdd.

Os yw’r trefniant i gydlafurio yn ffurfiol a phellgyrhaeddol gallai hefyd fod yn fanteisiol ystyried yr angen i sicrhau fod y “bartneriaeth” yn datblygu cynllun iaith penodol.  

Pwynt 3 (g): ymwneud â strategaethau a chynllunio cymunedol

Adran 44 – cynllunio cymunedol , cyfranogiad y gymuned

Ym mhrofiad y Bwrdd  pur anaml y ceisir barn nifer digonol o siaradwyr Cymraeg er mwyn dod i gasgliadau o unrhyw werth ystyrlon. Anaml y gofynnir barn  

dinasyddion sy’n siarad Cymraeg am ansawdd ac amrediad gwasanaethau cyfrwng y Gymraeg. Ym mha ffordd felly mae’r mesur hwn, o ystyried casgliadau  adolygiad Ar Draws Ffiniau yn rhoi digon o lais i siaradwyr Cymraeg sydd, mewn rhai cymunedau, wedi eu tangynrychioli?

Adran 45 – pwer Gweinidogion i ddyroddi canllawiau

Mae adran 3 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gosod dyletswydd ar y Bwrdd i ddarparu canllawiau ym maes yr iaith Gymraeg. Ar hyn o bryd mae’r Bwrdd yn cydweithio gyda’r Llywodraeth yn y gwaith o baratoi canllawiau ar gyfer  gweithredu  er lles parhad yr iaith Gymraeg  yn gymunedol. Mae’r pwer hwn yn codi’r cwestiwn ynglyn â statws y cyngor atodol ar y Gymraeg a phwy ddylai gyhoeddi’r canllaw.   Mae angen ymdrin â’r aneglurder hwn fel rhan o’r broses gychwynnol.

Adran 46 – swyddogaeth Gweinidogion, dyletswydd ar Weinidogion i hybu a hyrwyddo cynllunio cymunedol

Byrdwn rhan gyntaf cymal 78,  Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yw gosod cyfrifoldeb ar holl Weinidogion Cymru i sicrhau fod cynllunio strategol yn digwydd ganddynt er lles y Gymraeg:

Cymal 78 Yr Iaith Gymraeg

‘’(1) Rhaid i Weinidogion Cymru fabwysiadu strategaeth (“Strategaeth yr Iaith Gymraeg”) yn nodi sut y maent yn bwriadu hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Iaith Gymraeg’’.

Barn y Bwrdd yw y dylid fel mater o egwyddor adlewyrchu’r dyletswydd clir yng nghymal 78,  i hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r iaith Gymraeg, yn y mesur Cymreig yn yr un modd ag y gwnaed eisoes gyda chynaladwyedd (sydd hefyd yn gymal yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006).  

Pwynt 4: rhwystrau posibl o ran darpariaethau’r Mesur  

Adran 15: Awdurdod Gwella Cymreig:  Cyhoeddi adroddiadau.  

Mae’r Bwrdd yn croesawu’r egwyddor y dylid cyhoeddi crynodeb o unrhyw adroddiad ar weithrediad cynlluniau iaith Gymraeg.

Gallai’r bwriad i sicrhau trwy’r mesur fod awdurdodau gwella yn cyflwyno adroddiadau erbyn 31 Hydref pob blwyddyn effeithio ar drefniadau presennol adrodd ar berfformiad cynlluniau iaith Gymraeg.  Mae hynny’n arbennig o wir os oes bwriad i reoleiddwyr gydlafurio.  Byddai’r Bwrdd yn croesawu trafodaeth ar y trefniadau arfaethedig.  

Pwynt 6:  sylwadau pellach

Adran 25  Adroddiadau gwella blynyddol

Er ein bod yn cytuno â’r egwyddor o gydweithio agosach rhwng rheoleiddwyr, rhaid datgan ein siomedigaeth na fu trafodaeth gyda’r Bwrdd ymlaen llaw ar yr adran hon.  Mae’n rhoi grym i’r Archwilydd Cyffredinol argymell i’r Bwrdd sut dylai arfer ei swyddogaethau mewn perthynas ag awdurdodau lleol.  Caiff gwaith y Bwrdd ei arwain gan ddyletswyddau statudol a hefyd gan ofynion y Gweinidog dros Dreftadaeth yn Llywodraeth y Cynulliad a chredwn fod angen trafodaeth fanwl ar sgil effeithiau’r adran hon.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help