Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011
Mesur arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Diben y Mesur arfaethedig
Mesur sy’n gwneud darpariaeth i gryfhau strwythurau a dulliau gweithio llywodraeth leol yng Nghymru ar bob lefel, ac sy’n sicrhau bod cynghorau lleol yn ymgysylltu â phob sector o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ym hwn.
Cyfnod presennol y Mesur
Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Mai 2011. Mae’r Mesur erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).
Cofnod o hynt Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru)
Cyfnod |
Dyddiad |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
* Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3
Gwybodaeth berthnasol
Cewch ragor o wybodaeth am y Mesur hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.
Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny.
Ymgynghoriad Cyhoeddus
Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth am y Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru), a daw'r ymgynghoriad i ben ar 1 Hydref 2010
Cyflwynodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ar 16 Rhagfyr 2010.
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r ddadl ar Gyfnod 1 yng Nghyfarfod Llawn 11 Ionawr 2011
Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd iddo yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 12 Ionawr 2011 a daeth i ben ar 9 Chwefror 2011. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yma:
Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddetholwyd iddo yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 3 ar 10 Chwefor 2011 a daeth i ben ar 15 Mawrth 2011. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yma:
Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig:
Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod trafodion 15 Mawrth 2011.