Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mesur Arfaethedig ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru)

Mesur Arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan John Griffiths AC, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau

Diben y Mesur Arfaethedig yw

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch hawlogaeth plant sydd yn nwy flynedd olaf addysg orfodol a phersonau ifanc nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg oed i gael addysg; i wneud darpariaeth ynghylch y gwasanaethau perthynol i addysg a ddarperir gan ysgolion a gynhelir a sefydliadau yn y sector addysg bellach; i wneud darpariaeth ar gyfer datgelu gwybodaeth am y cwricwlwm; ac at ddibenion cysylltiedig.

Cyfnod Presennol y Mesur

Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion Cyfnod 4 ar 17 Mawrth 2009. Mae esboniad o beth sy'n digwydd ym mhob cyfnod i'w gael yn yr Arweiniad i Fesurau.

Eitemau newyddion cysylltiedig

Ceir eitemau newyddion a baratowyd gan y Cynulliad mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth hon yn yr adran ar gyfer Dogfennau perthnasol

Y Mesur Arfaethedig a'r Memorandwm Esboniadol

Mesur Arfaethedig ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru), fel y'i cyflwynwyd ar 7 Gorffennaf 2008, a Memorandwm Esboniadol.

Mesur Arfaethedig ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru), fel y'i diwygiwyd yn ystod cyfnod 2 (Caiff y gwelliannau i’r Mesur ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen. Lle bynnag y bo’n bosibl, defnyddir y rhifau gwreiddiol ar gyfer y darpariaethau a oedd yn y Mesur fel y’i cyflwynwyd)

Memorandwm Esboniadol, diwygiwyd ar ol Cyfnod 2.

Mesur Arfaethedig ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru), fel y'i pasiwyd

Y Pwyllgor - Cyfnod 2

Sefydlwyd pwyllgor parhaol, sef Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2, ar 9 Rhagfyr 2008. Bydd yn ystyried trafodion Cyfnod 2 y Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru).

Aelodau'r Pwyllgor

Agendâu, Papurau a Thrawsgrifiadau

Cyfnod 1

Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny:

Pwyllgor Cyfnod 1

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 9 Gorffennaf 2008 i ystyried egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig. Bydd y Pwyllgor yn dod i ben os bydd y Mesur arfaethedig yn pasio, yn cael ei wrthod neu’n cael ei dynnu’n ôl, neu os caiff Pwyllgor arall ei sefydlu i ymdrin â thrafodion cyfnod 2 o dan Reol Sefydlog 23.31(ii).

Aelodau'r Pwyllgor

Agendâu, Papurau a Thrawsgrifiadau

Ymgynghoriad Cyhoeddus
Cyhoeddodd y pwyllgor alwad am dystiolaeth, sydd bellach wedi cau. Gellir gweld yr ymatebion a dderbyniwyd yn yr ymatebion ymgynghoriad a dderbyniwyd.

Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar y Cyfnod Cyntaf ar 2 Rhagfyr 2008.

Daeth Cyfnod 1 i ben ar 9 Rhagfyr 2008.

Cyfnod 2

Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl.

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 10 Rhagfyr 2008. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn: Gwelliannau Cyfnod 2.

Cyfnod 3

Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:

Dechreuodd Cyfnod 3 ar 29 Ionawr 2009. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn: Gwelliannau Cyfnod 3.

Cyfnod 4

Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig.

Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion Cyfnod 4 ar 17 Mawrth 2009.

Mesur Arfaethedig ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru), fel y'i pasiwyd.