Cynulliad Cenedlaethol Cymru

LS1

Ymateb i’r Ymgynghoriad ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru) - Gorffennaf 2008.

Rhwydwaith Llwybrau Dysgu 14 - 19 Ceredigion

1. A oes angen deddfwriaeth i ad-drefnu darpariaeth 14 - 19?

Aeth sawl blwyddyn heibio ers dechrau’r broses o ad-drefnu addysg 14 - 19 yn yr ysgolion a’r sefydliadau addysgol eraill. Araf bu newidiadau mewn sawl maes. Dalwyd yr ad-drefnu’n ôl mewn nifer o achosion oherwydd bod rhai’n credu mai "prosiect dros-dro” byddai Llwybrau Dysgu 14 - 19; prosiect byddai’n diflannu hwyrach gydag unrhyw newidiadau gwleidyddol yn y canol. Mae’r camau â amlinellir yn y Mesur yn rhoddi statws a chysondeb i’r ad-drefnu ac yn sicrhau bydd pawb yn symud i’r un cyfeiriad. Felly, mae angen deddfwriaeth i sicrhau llwyddiant ad-drefnu drapariaeth 14 -19 yng Nghymru.

2. A yw’r Mesur arfaethedig yn cyflawni amcan y polisi neu a ellid gwneud newidiadau heb ddeddfu?

Mae’r camau â amlinellir yn y Mesur yn sicrhau mwy o ddewis i’n dysgwyr ar ddechrau Cyfnod Allweddol 4 ac yn yr ystod Ôl-16. Rhoddir cyfrifoldeb i Benaethiaid sefydliadau i ystyried cwrs addysg (Llwybr Dysgu) pob dysgwr; golyga hyn dewis ehangach i’r mwyafrif tra’n rhwystro eraill rhag dewis yn annoeth a gwneud drwg yn lle da i’w datblygiad addysgol / hyfforddiant. Mae rhif y cyrsiau rhaid cynnig i’r dysgwyr yn uchelgeisiol ac felly bydd rhaid sicrhau cydweithrediad a chydweithio rhwng sefydliadau. Nid yw nifer o sefydliadau’n gweld cydweithredu / cydweithio’n mewn golau positif ar adegau ac yn cwestiynu effeithiolrwydd cydweithio o’r math hyn; yn aml diffyg hyder mewn partneriaid yw’r broblem fwyaf. Mae’r ddeddfwriaeth yn cryfhau’r ddadl dros cydweithio; yn wir mae’n mynnu bod cydweithredu / cydweithio’n digwydd.

3. Beth yw barn y rhanddeiliaid y bydd rhaid iddynt weithio gyda’r trefniadau newydd?

Yn gyffredinol mae’r rhanddeiliaid yn gweld gwerth sylweddol yn y newidiadau, yn enwedig y dysgwyr. Mae hyn yn gyfle i ehangu’r cwricwlwm, sicrhau cyrsiau addas i’r dysgwyr, ac i ddod a darparwyr cyrsiau 14 - 19 yn agosach i’w gilydd er budd y dysgwyr. Mae rhieni’n aml yn poeni am statws / gwerth y cyrsiau galwedigethol, yn enwedig i ddysgwyr "galluog”. Bydd angen gweithio’n galed i sicrhau statws cyfartal i’r ddarpariaeth newydd. Ceir rhai addysgwyr yn poeni am safonau cyrhaeddiad. Mewn ardaloedd / sefydliadau lle ceir dysgwyr yn cyrraedd safonnau uchel o gyflawniad nawr, bydd peth petruso dros y posibilrwydd o ostwng safonnau. Rhaid pwysleisio mae bwriad 14 - 19 yw codi cyrraeddiadau mwy a mwy o ddysgwyr. Bydd Llywodraethwyr yn siwr o godi mater rheoli’r ddarpariaeth pan sefydlir cwricwla lleol gan yr A.A.Ll. (14-16) neu’r Gweinidogion yn y Cynulliad (Ôl-16).

4. Beth all fod yn rhwystr i gyflawni’r agenda bolisi ac a yw’r Mesur arfaethedig yn eu cymeryd i ystyriaeth?

i) Ni does amheuaeth bod cynnig cyrsiau galwedigaethol yn ychwanegu at costau’r cwricwlwm mewn amser lle mae’r gyllideb ysgol yn aml yn syrthio oherwydd lleihad yn rhifau dysgwyr yn yr ardal - NID oes ystyriaeth o hyn yn y Mesur.

ii) Mae cydweithio’n anodd yn aml oherwydd daearyddiaeth y Sir. Mae’r Mesur arfaethedig yn ystyried y broblem hyn drwy caniatau consortia lleol ar gyfer cwricwla o fewn Sir. Mae hyn i’w groesawu.

iii) Rhaid sicrhau’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer cyrsiau o bob math. Mae angen darpariaeth drwy gyfrwng Y Gymraeg i bawb ar draws yr holl ystod o gyrsiau a rhaid sicrhau asesiadau / arholiadau drwy’r Gymraeg. Dylai’r Mesur arfaethedig ystyried y mater pwysig yma a pheidio gadael y sefyllfa arholiadau posib yn nwylo cwmniau masnachol.

iv) Diffyg hyder rhwng partneriaid / darparwyr ynglŷn ag ansawdd y ddarpariaeth yn y gwahanol sefydliadau. Disgwylir i’r Rhwydweithiau sicrhau ansawdd uchel ar gyfer y ddarpariaeth ymhob sefydliad drwy weithredu Fframwaith Sicrhau Ansawdd; nid oes cyfeiriad penodol at sicrhau ansawdd yn y Mesur arfaethedig.

Newidiadau i’r Mesur yn dilyn yr ymgynghoriad gwreiddiol.

i) Gallu’r Penaethiaid i benderfynu hawliau

Mae’r newidiadau i’w croesawu. Gyda’r hawliau’n cael eu henwi yn y Mesur arfaethedig, bydd sefyllfa’r Penaethiaid yn llawer mwy cadarn.

ii)  Llunio Cwricwlwm Lleol ar gyfer disgyblion 14 - 16 a myfyrwyr 16 - 18

Mae’r cydnabyddiaeth bod angen mwy nag un "Cwricwlwm Lleol” mewn rhai sioedd yn gam positif iawn.

iii) Dewisiadau dysgwyr yn y Cwricwlwm Lleol

Mae’r system o osod pwyntiau ar gyfer cyrsiau yn gymorth wrth osod cwricwlwm; yn anffodus NID yw gwerth y pwyntiau, fel yr awgrymir ar hyn o bryd, bob amser yn addas ar gyfer faint o amser sydd rhaid neulltio ar gyfer y cwrs a faint o waith disgwylir gan y dysgwr e.e. gwerth cwrs NVQ Lefel 2. Mae angen hyblygrwydd ynglŷn â faint o gyrsiau gall dysgwyr galluog a thalentog eu sefyll; mae angen mwy o eglurhad ar yr "uchafswm” o ddeg pwnc TGAU.

iv) Cyflenwi hawliau’r cwricwlwm lleol: gweithio ar y cyd

Mae’r newid sy’n sicrhau bod angen sicrhau cydweithio a chydweithredu i’w groesawu. Rhaid gwneud y mwyaf o beth sydd ar gael i holl ddysgwyr o fewn pob Rhwydwaith.

v) Adnabod Cwricwlwm Lleol ar gyfer y dysgwr

Mae bwysig bod pob dysgwyr yn gysylltiedig ag un sefydliad penodol ac felly gydag un Cwricwlwm Lleol. Mae’n bwysig mai un sefydliad sy’n gyfrifol am y dysgwr e.e. cefnogaeth bersonol, anogwr dysgu, mynediad a chostau arholiadau ac ati.

vi) Ysgolion Arbennig

Cytuno â’r penderfyniad nad oes raid i ddygwyr mewn ysgolion arbennig fod yn rhan o’r Cwricwlwm Lleol ond byddai braf pe byddai gymaint o’r dysgwyr hyn yn cael y cyfle i ymuno / cymeryd rhan yng ngweithgareddau’r Cwricwlwm Lleol lle’n bosib. Heb amheuaeth byddai gweithgareweddau galwedigaethol yn arbennig yn cyfoethogi profiadau’r dysgwyr mewn ysgolion arbennig.

vii) Rhoi heibio’r Cwricwlwm Lleol

Nid ddylid rhoi’r hawl i roi heibio’r Cwricwlwm Lleol unwaith ei fod wedi ei sefydlu.