Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2008 - Ymgynghoriad
Tystiolaeth Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru i’r Pwyllgor
Mesur Dysgu a Sgiliau
1. A oes angen deddfwriaeth ar gyfer ad-drefnu darpariaeth 14-19?
1.1 Mae yna ddadl dros ddeddfu i sicrhau datblygiad ledled Cymru ar un llaw ac er mwyn osgoi’r loteri ariannu bids/ grantiau. Mae yna ddadl, hefyd, dros ganiatáu i’r datblygiad barhau ar y raddfa bresennol, yn enwedig tan fod rhai cyrsiau newydd wedi’u sefydlu a’u gwerthuso ac i ganiatáu ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
1.2 Mae UCAC yn pwyso am ystyriaeth ofalus iawn o amseriad gweithredu unrhyw Fesur. Tybia UCAC nad yw’r capasiti gan Gymru ar hyn o bryd i weithredu gofynion y Ddeddf fel mae’n sefyll.
1.3 Nid yw’r Mesur yn sôn o gwbl am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn un o’r sgiliau sydd yn brin iawn yn y gweithle yng Nghymru heddiw. Mae’r angen am gynorthwywyr dosbarth sydd yn rhugl yn y Gymraeg ar gyfer y Cyfnod Sylfaen yn dyst i hyn, fel ag y mae’r prinder athrawon, darlithwyr a hyfforddwyr sydd yn medru gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (gweler Cynllun Sabothol Llywodraeth y Cynulliad). Mae’n rhaid diogelu ac ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae amseriad y Mesur yn anffodus - mae wedi’i ysgrifennu cyn bod Strategaeth Addysg Gymraeg i Gymru gyfan wedi’u ffurfio gan y Corff newydd sydd o dan ofal Ann Jenkins. Dylai strategaeth o’r fath fod yn ganolog i’r Mesur.
1.4 Mae rhaid caniatáu digon o amser i sicrhau bod cyllid digonol i weithredu, bod digon o amser i baratoi Rheoliadau a Chanllawiau perthnasol mewn da bryd, bod protocolau ar gyfer gweithredu mewn lle ymlaen llaw, a.y.b. Mae angen, felly, ystyriaeth gofalus o amseriad y Mesur. Rhaid dysgu gwersi wrth gamgymeriadau’r Cyfnod Sylfaen o ran amseru, cyllido, staffio ac ati.1.5 Mae yna ddiffyg manylder yn y Ddeddf fel mae’n sefyll (gweler sylwadau isod o ran pryderon)
2. Ydy’r Mesur arfaethedig yn llwyddo i gyflawni’r amcanion polisi neu a fyddai modd gwneud y newidiadau heb ddeddfu?
2.1 Fe allai’r ddau ddull (opsiwn 2 a 3, fel y sonnir amdanynt yn y memorandwm esboniadol) gyfrannu at gyflawni’r amcanion polisi.
Serch hynny, mae’r system ariannu bresennol (h.y. grantiau penodol) yn gallu bod yn annheg iawn - mae’n dibynnu ar sgil yr un sy’n gwneud y bid yn aml, yn hytrach nag ar angen. Nid yw chwaith yn caniatáu cynllunio strategol gan fod gwybodaeth am lwyddiant bids yn aml yn cyrraedd sefydliadau’n rhy hwyr yn ystod y flwyddyn addysgol i gynllunio’n gywir ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Petai ddull ariannu gwell yn cael ei gyflwyno oherwydd y Deddfu byddai hyn yn gwella’r sefyllfa o ran tegwch cyllidol.
2.2 Bydd angen edrych yn ofalus iawn ar y cyllido ac mae llawer gormod o gwestiynau’n codi sydd heb eu hateb eto ynglŷn â dull ariannu’r cwricwlwm lleol. Ar hyn o bryd mae rhai sefydliadau’n codi pris uchel iawn am ddarparu cwrs / cyrsiau ar gyfer ysgolion. Sut bydd y Llywodraeth yn mynd ati i sicrhau bod y dulliau cyllido cyrsiau yn deg a fforddiadwy?
3. Beth yw barn y rhanddeiliaid bydd yn gorfod gweithredu o fewn y trefniadau newydd?
3.1 Teimla llawer o randdeiliaiad ei fod yn amlwg, erbyn hyn, bod cymaint o fomentwm am Fesur bod stopio’r broses yn annhebygol iawn a’i fod yn anorfod, ond nid yw Deddfu’n mynd i sicrhau llwyddiant os nad oes cyllid a chynllunio strategol pwrpasol. Mae angen y cyllid, y gweithlu ac ewyllys da ac nid ysbryd o gystadleuaeth. Mae angen amser i baratoi a chyngor a chanllawiau’n seiliedig ar arfer dda. (Mae llawer o enghreifftiau o arfer dda ar gael).
Mae yna hinsawdd o ansicrwydd neu ofn am nifer o faterion, gan gynnwys y canlynol:
dyfodol sefydliadau unigol (yn dilyn Adroddiad Webb)
dyfodol 6ed dosbarth ysgolion a’r oblygiadau ar staffio ysgolion yn gyffredinol
dyfodol addysg hyd at 13 oed
dyfodol addysg cyfrwng Cymraeg (diffyg diddordeb gan sefydliadau tu allan i’r sector cyfrwng Cymraeg mewn darpariaeth ar gyfer, a hawliau, disgyblion cyfrwng Cymraeg)
isafswm y cyrsiau bydd rhaid i’w hardaloedd penodol gynnig
- dylai fod mwy o bwyslais ar sicrhau safon cyrsiau nid yn unig sicrhau bod ystod eang o gyrsiau ar gael
4. Pa fath o rwystrau allai fod i gyflawni agenda’r polisi ac a oes ystyriaeth o rain yn y Mesur arfaethedig?
problemau cyd-weithio
problemau dilyniant 14-16 i 16-19
diffyg cyfleoedd a darpariaeth cyfrwng Cymraeg - dim cyfle cyfartal iddynt hwy
dim cyfeiriad yn y Ddeddf at drefniadau cyflafareddu (arbitration)
dim eglurder o ran atebolrwydd am safonau cyrsiau, sicrhau ansawdd a chydnabyddiaeth o / chyfrifoldeb am lwyddiant / cymwysterau disgyblion
- materion llwyth gwaith - mwyfwy o gyfarfodydd
- diffyg eglurder am faint o ddweud bydd gan sefydliadau unigol am beth maen’ nhw’n medru cynnig fel cyrsiau
- diffyg cyfeiriad at bwy fydd yn ymchwilio i unrhyw gwyn - am ddisgybl / am gwrs / am athro- ddarlithydd - hyfforddwr
- heb systemau gweithredu clir - protocols clir a da bydd problemau mawr yn codi; perygl o ddyblygu gwaith os bob AALl yn paratoi protocols eu hunain. Angen i APADGOS edrych ar yr arfer dda sydd yn bodoli’n barod a rhoi canllawiau da i eraill lle nad oes llawer o ddatblygiad hyd hyn.
5. A ydy’r gwelliannau a wnaethpwyd i’r Mesur yn llwyddo i fynd i’r afael a’r gofidiau oedd gennych wrth ddarllen y ddogfen Drafft?
5.1 Na. Mae UCAC yn siomedig â ffurf bresennol y Mesur ac yn gorfod ail-ddatgan nifer o bryderon gan nad yw’r Mesur yn mynd i’r afael â’n gofidiau am y materion hyn:
5.2 Yn sicr mae angen datblygu cyrsiau mwy addas ar gyfer canran o’n disgyblion nad yw cyrsiau academaidd yn addas ar eu cyfer ond rhaid diogelu’r pynciau mwy traddodiadol yn y cwricwlwm lleol. Rhaid cofio nad dim ond dilyn cyrsiau "galwedigaethol” sydd yn arwain at fyd gwaith!
5.3 Pwysleisiwn fod yna wahaniaeth rhwng addysg a hyfforddiant a dylai’r pwyslais cyn - 16 fod ar addysg, ac ôl-16 ddibynnu ar ddewis yr unigolyn o addysg, hyfforddiant neu waith. 5.4 Mae’r Awdurdod Addysg Lleol mewn sefyllfa i gael trosolwg o’r ddarpariaeth sydd ar gael o fewn y sir ac yn gallu mynd ati i gynllunio / annog / hwyluso / arwain datblygiadau pellach. Ond sut bydd datblygu cyrsiau newydd ar gyfer cwricwlwm lleol yn digwydd? Proses o dendro? Mae UCAC yn erbyn mynd â phwerau cynllunio cwricwlaidd yn llwyr allan o ddwylo ysgolion / sefydliadau unigol. Rydym yn ymwybodol o’r pwyslais sydd ar beidio â dyblygu ond dylai fod gan ddisgybl, hefyd, elfen o ddewis o ran sefydliad. Os mai dim ond un sefydliad sydd yn cynnig cwrs arbennig nid yw hynny’n ehangu dewisiadau’r unigolyn nac ychwaith yn helpu i gynnal a chodi safonau. 5.5 Mae UCAC yn erbyn cludo disgyblion 14-16 oed o safle i safle. Mae mynychu mwy nag un safle i dderbyn addysg yn debygol o greu ansefydlogrwydd - ac mae’n debygol mai’r disgyblion hynny sydd angen y fwyaf o gefnogaeth yw’r grŵp bydd yn cael eu heffeithio. Nid yw ansefydlogi disgybl 14-16 oed yn mynd i’w helpu i lwyddo - mae modd cael hyblygrwydd heb greu ansefydlogrwydd.. 5.6 Os oes teithio o safle i safle beth am y costau: arian; amser y disgybl/ gweithiwr; ôl-troed carbon y disgybl? 5.7 Mae UCAC yn gwrthwynebu caniatáu i ddisgyblion o oed addysg orfodol dderbyn addysg llawn amser mewn sefydliad Addysg Bellach neu weithle. Dylai disgyblion 14-16 oed fod ar gofrestr ysgol gyda’r ysgol felhost. Beth yw sefyllfa’r cwricwlwm ar gyfer Colegau Addysg bellach petai’r Coleg yn cael yr hawl i gofrestru disgybl 14-16 oed? A fydd dal gan y disgybl yr hawl i’r Cwricwlwm Sylfaenol llawn? Sonnir bod y Craidd Dysgu yn rhan o hawl ar gyfer disgyblion 14-16 oed a bod elfen o’r Cwricwlwm Sylfaenol ynddo, sef: Addysg Grefyddol, Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Addysg sy’n Gysylltiedig â Gwaith, Addysg Gyrfaoedd ac Addysg Rhyw. Pwy fydd yn darparu’r holl elfennau hyn? Oes gan y Colegau Addysg Bellach y profiad, arbenigedd a’r staff ar gyfer y meysydd hyn? (Dim ond Addysg Gyrfaoedd sydd yn orfodol ar gyfer disgyblion 16-19 oed). Mae addysgu disgyblion 14-16 oed yn wahanol iawn i addysgu disgyblion 16-19 oed. Ar hyn o bryd nid yw’r arbenigedd ar gael yn y Sefydliadau Addysg Bellach (nac yn y gweithle). 5.8 Beth am y sefyllfa o ran diogelwch plant? Nid yw pobl mewn gweithle cyffredin neu sydd yn mynychu’r Coleg i astudio yn cael gwiriad CRB manwl. Rhaid cofio, hefyd, am y temtasiwn i rai i driwanta. Mewn ysgol mae yna drefniadau cofrestru dyddiol (mwy nag unwaith y dydd) sydd yn help i sicrhau presenoldeb ac mae gwybodaeth yn yr ysgol am leoliad y plentyn ar unrhyw un adeg yn ystod y dydd. Mae yna ddiffyg manylder yn y ddogfen, hefyd am y Gwasanaethau Cefnogi Disgyblion,
Learner Support Services.5.9 Mae UCAC dal â phryderon am y ffaith mai Gweinidogion fydd â’r hawl i wneud penderfyniadau am Gwricwlwm Lleol 16-19 oed. Mae hyn yn rhoi gormod o hawliau ymyrraeth i Weinidogion. Mae lle gan Lywodraeth y Cynulliad i roi arweiniad / canllawiau ond ni ddylid ymyrryd yn uniongyrchol. 5.10 Os am sicrhau cyfle cyfartal rhaid bod modd cynnig yr HOLL ystod o gyrsiau, ym mhob ardal, trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae angen cyfle cyfartal i’r sawl sydd yn dymuno addysg Cyfrwng Cymraeg a rhaid cymryd camau gweithredol / positif i sicrhau hyn. Nid yw’r Gymraeg, fel cyfrwng nac fel sgil, yn cael sylw teilwng yn unrhyw un o ddogfennau Llywodraeth y Cynulliad ar addysg 14-19. Mae yna berygl i ni golli cyfle fan hyn ac, yn waeth na hynny, i’r Mesur Sgiliau fod yn Ddeddf sydd yn tanseilio’r iaith ac addysg cyfrwng Cymraeg trwy ganiatáu i AALl a sefydliadau addysgol anwybyddu eu cyfrifoldeb am addysg cyfrwng Cymraeg.
5.11 Yn hanesyddol mae disgyblion a’u rhieni wedi gweld llwybr "galwedigaethol” yn un ar gyfer disgyblion llai galluog yn hytrach nag ar gyfer disgyblion gyda galluoedd gwahanol. Cynigir bod labeli cyrsiau yn
annoeth. Mae UCAC, hefyd, yn erbyn cyrsiau ar gyfer disgyblion 14-16 oed sydd yn "alwedigaethol” pur - sef eu paratoi ar gyfer un gweithle arbennig. Gwell rhoi blas i ddisgyblion yr oedran yma o bosibiliadau ond dylai’r pwyslais cyn -16 oed fod ar addysg, nid hyfforddiant ar gyfer y gweithle.
5.12 Rhaid cofio y gall cyd-weithio rhwng sefydliadau olygu ychwanegiad at lwyth gwaith a chostau (rhaid cyfarfod a chynllunio, cyd-amserlennu, cynllunio’n strategol). Mae’n fwy o waith i drefnu hyn oll pan mae mwy nag un sefydliad yn rhan o’r broses.Medi 2008
UCAC
Pen Roc
Rhodfa’r Môr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2AZ
01970 639950
u
w
ww.athrawon.com