LS19
Ymgynghoriad y Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Dysgu a Sgiliau
CYDAG
i) A oes angen deddfwriaeth i ad-drefnu darpariaeth 14-19?
Oes mae angen deddfwriaeth am fod cymaint o rwystrau yn y maes hwn iddo ddigwydd heb newid y fframwaith statudol.
O ran CYDAG, mae’n hanfodol bwysig bod statws cyfartal yr iaith Gymraeg a Saesneg yn cael lle canolog a chreiddiol i’r ddeddfwriaeth newydd. Nid yw hynny wedi ei gyflawni hyd yma hyd yn oed gyda’r newidiadau a wnaed yn sgil yr ymgynghoriad cyntaf.
Yn yr un modd mae angen i’r ddeddfwriaeth gynnwys ac arddangos yn hollol glir hawl llawn a chyfartal dysgwyr i dderbyn yr un arlwy eang ac amrywiol sydd i ddeillio o’r newidiadau trwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy gyfrwng y Saesneg y naill yn union fel y llall. Ni ddylid dyfrio’r hawl hwn trwy osod cymalau amodol megis 'lle mae hyn yn ymarefrol bosib’, ac ati. Cafwyd llond bol o weld cymalau o’r fath sy’n esgusodi darparwyr a chyrff statudol rhag sicrhau statws a hawliau llawn yr iaith a’r dysgwyr.
ii) A yw’r Mesur arfaethedig yn cyflawni amcan y polisi neu a ellid gwneud newidiadau heb ddeddfu?
- Fel y nodwyd o dan (i), mae angen deddfwriaeth ond rhaid sicrhau ansawdd,
- rhychwant a chefnogaeth Lawn y ddeddfwriaeth i ddiogelu hawliau cyfartal llawn
- pob dysgwr o ran cyfrwng iaith a chyd-destun daearyddol ac ati.
iii) Beth yw barn y rhanddeiliaid y bydd rhaid iddynt weithio gyda’r trefniadau newydd?
Mynegwyd barn ysgolion CYDAG yn yr ymateb i’r ymgynghoriad gwreiddiol.
Os na sicrheir ystyriaeth gynhwysfawr o ran cyfrwng a sefyllfaoedd daearyddol yn llawn, rhagwelir na fydd modd i nifer o aelodau CYDAG foddio anghenion y ddeddfwriaeth tra hefyd boddio amcanion Iaith Pawb a gweithredu eu polisïau iaith.
iv) Beth all fod yn rhwystr i gyflawni’r agenda bolisi ac a yw’r Mesur arfaethedig yn eu cymryd i ystyriaeth?
- Yn anffodus mae yna restr faith o rwystrau a all atal neu lyffetheirio gweithrediad
- yr agenda bolisi ac yn enwedig felly yn y sector cyfrwng Cymraeg a hefyd mewn
- cyd-destunau llai poblog a gwledig, megis:
- Diffyg cadernid am hawliau cyfartal y dysgwyr o ran mynediad i gyrsiau a chymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
- Diffyg ystyriaeth o’r gwir gostau o gydweithio gan gynnwys ffactorau megis trafnidiaeth, amser teithio, adeiladau ac adnoddau addysgu lle nado es rhai yn bod sy’n driw i ac yn boddio hawliau cyfartal o ran iaith a lleoliad daearyddol.
- Diffyg sicrhau darparu argaeledd rhychwant Lawn o ran achredu a sicrhau cymwysterau ar raddfa hollol gyfartal o ran cyfrwng Cymraeg a Saesneg
- Darparu adnoddau addysgu a hyfforddi i sicrhau bod cyrsiau a chymwysterau ar gael yn gyfartal trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
Mae’r rhestr rhwystrau gyflawn yn un faith ac mae angen gwir ewyllys a gweithredu gwleidyddol, a hynny ar linell amser frys, os ydy’r ddeddfwriaeth i wreiddio a ffynnu mewn modd sy’n wir ddiogelu hawl cyfartal pob dysgwr.
Ar ran CYDAG
Arwel George
Ysgrifennydd