Tystiolaeth Cymdeithas Yr Iaith Ar Gyfer Mesur Arfaethedig Ynghylch Dysgu A Sgilau (Cymru)
1. Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu’r bwriad i gyflwyno mesur drafft gan gadarnhau ymgais Llywodraeth Cymru i greu cwricwlwm a threfn addysg sy’n gweddu ag anghenion pobl ifainc Cymru.
2. Hoffem weld y Mesur Drafft yn mynd ymhellach trwy ddiwygio’r meysydd dysgu yn y Cwricwlwm Lleol. Yn Adran 4 o’r Mesur, bwriedir ychwanegu cymalau at adran 116A o Ddeddf Addysg 2002 ar gyfer cwricwlwm lleol Cyfnod Allweddol 4, ac yn adran 18 o’r Mesur Drafft, bwriedir ychwanegu at adran 33A o Ddeddf Addysg 2002 ar gyfer cwricwlwm lleol ar gyfer myfyrwyr 16-18 oed. Yn y ddau ychwnaegiad, mae’r trydydd cymal yn rhestru’r meysydd dysgu. Cynigiwn newid is-gymal (c) o "gwasanaethau ar gyfer pobl” i ddarllen "astudiaeth draws-bynciol o’r gymuned leol gan gynnwys ei hanes, daearyddiaeth, economi, ecoleg, diwylliant a gwead cymdeithasol” Credwn yn gryf fod angen datblygu addysg berthnasol i brofiad y myfyriwr trwy astudiaeth o wead y gymuned o’i gwmpas, ac y dylid gwneud hynny mewn modd sy’n ei rymuso i ddeall sut y gall ddylanwadu. Mae angen hyn ar gyfer democratiaeth iach ac ar gyfer dyfodol ein cymunedau a bydd addysg drawsbynciol o’r fath yn datblygu sgiliau dadansoddi, casglu gwybodaeth, pwyso a mesur, a gweithredu a fyddant o’r pwys mwyaf o ran datblygiad addysgol a phersonol y myfyriwr. Dylid dal ar y cyfle i wneud yr hyn yr ymdrinir yn rhannol iawn ag ef o dan pennawd ABCh i brif ffrwd y profiad addysgol. Yn hytrach nag ymhelaethu yma, tynnwn eich sylw at ein dogfennau polisi yn y maes hwn, sef
http://cymdeithas.org/2003/10/01/addysg_gwerth_astudiaethau_cymunedol_fel_sylfan_i_addysg_a_dealltwriaeth_ar_gyfer_democratiaeth.html
http://cymdeithas.org/2003/10/01/addysg_dysgu_ar_gyfer_datblygiad_cymuned.html
http://cymdeithas.org/2003/10/01/addysg_addysg_berthnasol_cwricwlwm_cyflawn_i_gymru.html
http://cymdeithas.org/2003/10/01/addysg_perthnasedd_ac_atebolrwydd_addysg_alwedigaethol_ac_ol_16_yng_nghymru.html
3. Cynigiwn hefyd welliant i is-gymal (d) y ddwy adran. Yn hytrach na maes dysgu "Y celfyddydau, y cyfryngau, diwylliant ac ieithoedd” cynigiwn ychwanegiad "a’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn nwy iaith Cymru”. Credwn fod y gallu i gyfathrebu yn y ddwy iaith yn sgil addysgol yr un mor sylfaenol a meithrin y gallu i gyfathrebu drwy ddefnydd effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth. Methiant addysgol yw’r methiant i feithrin yn holl fyfyrwyr Cymru y gallu i gyfathrebu’n Gymraeg. Cwbl annigonol yw cynnwys sgil o’r fath o dan pennawd cyffredinol "ieithoedd”. Dyma gyfle eto i’r Llywodraeth ddefnyddio’r Mesur Drafft i sicrhau cynnydd addysgol o bwys yng Nghymru.
4. Yr ydym yn cefnogi’r egwyddor o hybu cydweithio rhwng sefydliadau er sicrhau’r profiad addysgol ehangaf i fyfyrwyr. Mae cronni adnoddau o’r fath yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig ac o ran datblgyu addysg sector Gymraeg. Rhaid pwysleisio, fodd bynnag, mai canlyniad amser byr cyflawni hyn ar gyfer myfyrwyr oedran 16-18 oed yw Sesnigo’r addysg a geir gan fod y Colegau Addysg Bellach yn draddodiadol wedi bod yn llawer mwy adweithiol nag ysgolion o ran cynnig addysg gyfrwng Gymraeg. Er mwyn osgoi hyn, rhaid fyddai wrth gyfarwyddyd ac adnoddau i sicrhau cynnydd mawr yn syth yn y sector hwn. Pwysleisiwn eto fod unrhyw Goleg nad sy’n paratoi myfyrwyr i allu trafod eu gwaith yn Gymraeg - yn enwedig mewn nifer o’n hardaloedd - yn methu’n addysgol. Cyfeiriwn eich sylw at ein dogfen
h
ttp://cymdeithas.org/pdf/siarter_colegau_ol16.pdf
5. Cefnogwn fod y cyfrifoldeb arweiniol ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm at fyfyrwyr 14-16 oed gyda’r Awdurdod Addysg Lleol. Ni welwn unrhyw reswm pam na ddylai hyn hefyd ddim fod yn wir ar gyfer dysgwyr 16-19 oed. Dylai Gweinidogion Cymru ymgyfyngu i osod meini prawf sylfaenol. Fel arall, tanseilir yr holl gysyniad o greu Cwricwlwm Lleol.
