Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mesur Arfaethedig ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru)

Gwelliannau Cam 2

Ystyried gwelliannau

Ar ôl i’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, dechreuodd Cyfnod 2 ar 10 Rhagfyr 2008.  Gellir cyflwyno gwelliannau yn awr i'r Mesur arfaethedig (fel y’i cyflwynwyd).

Bydd cyfarfod cyntaf y pwyllgor ar Ionawr 14 2009. Bydd trydedd cyfarfod y pwyllgor ar Ionawr 28 2009 i ystyried gwelliannau i’r Mesur arfaethedig. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw pum diwrnod gwaith cyn y cyfarfod lle y maent i fod i gael eu hystyried.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau wedi mynd heibio.

Mae’r hysbysiadau o welliannau yn dangos gwelliannau sydd wedi’u cyflwyno ar ddyddiad penodol. Mae’r rhestri wedi’u trefnu yn dangos y gwelliannau sydd i’w hystyried mewn cyfarfod.  Mae’r ddogfen Grwpio gwelliannau yn nodi ym mha drefn y caiff gwelliannau eu trafod mewn cyfarfod penodol ac unrhyw wybodaeth berthnasol yn ymwneud â’r gweithdrefnau.

Hysbysiad ynghylch gwelliannau, 12 Ionawr 2009.
Hysbysiad ynghylch gwelliannau, 14 Ionawr 2009.
Rhestr o welliannau mewn trefn, 21 Ionawr 2009
Grwpio gwelliannau, 21 Ionawr 2009
Hysbysiad ynghylch gwelliannau, 21 Ionawr 2009
Rhestr o welliannau mewn trefn, 28 Ionawr 2009
Grwpio gwelliannau, 28 Ionawr 2009

Gwybodaeth ddefnyddiol

Ceir rhagor o wybodaeth am gyflwyno gwelliannau yn ystod Cyfnod 2 ym mhenderfyniad y Llywydd ar ffurf briodol gwelliannau (PDF, 33KB).