Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Mesur Arfaethedig ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru)

Gwelliannau Cam 3

Ystyried gwelliannau

Ar ôl i’cwblhau trafodion Cyfnod 2, bydd Cynfod 3 yn dechrau ar 29 Ionawr 2009.
Gellir cyflywno gwelliannau yn awr i'r Mesur arfaethedig (fel y'i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2).

Cynhelir ystyriaeth Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Mawrth 2009 pryd y trafodir y gwelliannau i'r Mesur arfaethedig. Rhaid cyflwyno gwelliannau yn y Swyddfa Ddeddfwriaeth erbyn 6pm 10 Mawrth 2009.

Mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau wedi mynd heibio.

Hysbysiad ynghylch gwelliannau, 6 Mawrth 2009
Hysbysiad ynghylch gwelliannau, 10 Mawrth 2009
Rhestr o welliannau mewn trefn, 17 Mawrth 2009
Grwpio gwelliannau, 17 Mawrth 2009

Mae’r hysbysiadau o welliannau yn dangos gwelliannau sydd wedi’u cyflwyno ar ddyddiad penodol. Mae’r rhestri wedi’u trefnu yn dangos y gwelliannau sydd i’w hystyried mewn cyfarfod.  Mae’r ddogfen Grwpio Gwelliannau yn nodi ym mha drefn y caiff gwelliannau eu trafod mewn cyfarfod penodol ac unrhyw wybodaeth berthnasol yn ymwneud â’r gweithdrefnau.  

Gwybodaeth ddefnyddiol

Ceir rhagor o wybodaeth am gyflwyno gwelliannau yn ystod Cyfnod 3 ym mhenderfyniad y Llywydd ar ffurf briodol gwelliannau (PDF, 33KB).