Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif.3
Legislation Committee No.3
Dyddiad 29 Mawrth 2010
Annwyl Syr/Madam
Ymgynghori ar Fesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru).
Fel rhan o ystyriaethau Cam 1, mae Pwyllgor deddfwriaeth Rhif 3 yn galw am dystiolaeth mewn perthynas ag egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru).
Beth yw Mesur?
Darn o ddeddfwriaeth a wneir gan y Cynulliad yw Mesur. Mae iddo effaith debyg i Ddeddf Seneddol. Gall y Cynulliad basio Mesurau ar unrhyw ‘fater’ a restrir yn Atodlen 5 i Ddeddf 2006 . Mae’r Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) yn defnyddio materion yn ymwneud â meysydd Iechyd a Gwasanaethau Iechyd, a Lles Cymdeithasol.
Tra bod Mesur yn mynd drwy'r Cynulliad, fe'i elwir yn ‘Fesur arfaethedig’.
Mae pedwar cyfnod yn y broses o ystyried Mesur arfaethedig. Yn ystod Cyfnod 1, mae’r pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig (gan gymryd tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar gan rai sydd â diddordeb a rhanddeiliaid) ac mae'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny.
Beth mae’r Mesur arfaethedig am ei gyflawni?
Yn ôl y Memorandwm Esboniadol sy’n gysylltiedig â’r Mesur arfaethedig:
“Mae'r Mesur arfaethedig yn rhoi dyletswyddau ar Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas ag asesu iechyd meddwl a thrin anhwylder meddwl. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol ar gyfer cleifion cymwys. Y personau hynny yw'r rhai sy'n ddarostyngedig i bwerau gorfodaeth Deddf Iechyd Meddwl 1983, a phersonau sy'n cael eu trin mewn ysbyty (oherwydd eu bod yn dioddef o anhwylder meddwl).
Caiff yr effaith arfaethedig ei chyflawni drwy bum amcan polisi’r Mesur arfaethedig:
asesu iechyd meddwl unigolyn a, lle bo hynny'n briodol, trin anhwylder meddwl unigolyn o fewn gofal sylfaenol, drwy sefydlu dyletswydd i Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol ledled Cymru;
cyflwyno gofynion statudol mewn perthynas â chynllunio gofal a thriniaeth a chydlynu gofal o fewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd;
ei gwneud yn ofynnol i bob gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd fod â threfniadau i sicrhau bod cyn-ddefnyddwyr gwasanaethau yn medru cael asesiadau mewn da bryd;
ehangu'r grwp 'cleifion cymwys' o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 sydd â hawl i gael cymorth gan Eiriolydd Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA), fel bod modd i bob claf sy'n ddarostyngedig i bwerau ffurfiol y Ddeddf gael cymorth IMHA lle bo angen;
galluogi pob claf sy'n cael gofal a thriniaeth ar gyfer anhwylder meddwl mewn ysbyty i gael mynediad at IMHA arbenigol a phroffesiynol.”
Beth yw rôl y Pwyllgor?
Rôl Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig a chyflwyno adroddiad arnynt. Wrth wneud hyn, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i weithio o fewn y fframwaith a ganlyn:
Ystyried:
i) a oes angen Mesur arfaethedig i gyflawni’r amcanion a ganlyn:
darparu gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol yn gynt i unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl er mwyn lleihau’r risg o ddirywiad pellach yn eu hiechyd meddwl ac, mewn rhai achosion, lleihau’r angen iddynt gael eu trin yn yr ysbyty a’u cadw yn yr ysbyty’n orfodol;
sicrhau bod pawb sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yng Nghymru yn cael cydgysylltydd gofal penodol ac yn cael cynllun gofal a thriniaeth, a bod gan bobl sydd wedi cael eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd fynediad i’r gwasanaethau hynny pan fyddant yn credu bod eu hiechyd meddwl yn dirywio;
ymestyn darpariaeth o wasanaethau eirioli iechyd meddwl y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol ar hyn o bryd.
ii) a yw’r Mesur arfaethedig yn cyflawni’r amcanion hyn;
iii) y darpariaethau allweddol sydd wedi’u gosod allan yn y Mesur arfaethedig ac a ydynt yn addas ar gyfer cyflawni’r amcanion;
iv) y rhwystrau posibl i’r broses o roi’r darpariaethau allweddol ar waith ac a yw’r Mesur arfaethedig yn ystyried y rhain;
v) barn rhanddeiliaid a fydd yn gorfod gweithio’n unol â’r trefniadau newydd.
Sut y gallwch chi helpu – cwestiynau’r ymgynghoriad
Mae manylion y Mesur arfaethedig a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig i’w gweld ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol: http://www.cynuliladcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-mhs-2.htm
Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo â’r gwaith o graffu ar y Mesur arfaethedig. Yn benodol byddem yn croesawu’ch sylwadau ar y cwestiynau a restrir yn Atodiad 1.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, a fyddech cystal ag anfon copi electronig at legislationoffice@wales.gsi.gov.ukgan roi’r teitl Ymgynghoriad – y Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru).
Neu, ysgrifennwch at:
Ruth Hatton, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylech anfon tystiolaeth erbyn 14 Mai 2010. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Cewch ragor o wybodaeth am y broses ddeddfwriaethol yn:
Wrth baratoi’ch ymateb, cofiwch y pwyntiau a ganlyn:
dylai’ch sylwadau fynd i’r afael â’r materion sydd gerbron y Pwyllgor. Defnyddiwch y pennawd uchod fel cyfeirnod i’ch sylwadau;
bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel arfer yn sicrhau bod ymatebion I ymgynghoriad cyhoeddus ar gael i’r cyhoedd graffu arnynt ac mae’n bosibl y bydd Aelodau’r Cynulliad yn eu gweld ac yn eu trafod yn ystod cyfarfodydd pwyllgor hefyd. Os nad ydych am i ni gyhoeddi eich ymateb neu’ch enw, mae’n bwysig eich bod yn nodi hynny’n glir wrth gyflwyno’ch tystiolaeth;
nodwch a ydych yn ymateb ar ran sefydliad, neu fel unigolyn. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o rôl y sefydliad hwnnw.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig yn ystod tymor yr haf.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch Carys Jones, Clerc y Pwyllgor, ar 029 2089 8598 neu Ruth Hatton, y Dirprwy Glerc ar 029 2089 8019.
Yn gywir
Dai Lloyd AC
Cadeirydd y Pwyllgor
Atodiad 1
Y Mesur arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru)
Cwestiynau’r ymgynghoriad
1. A oes angen Mesur arfaethedig i gyflawni’r amcanion penodol a ganlyn:
a) darparu gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol yn gynt i unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl er mwyn lleihau’r risg o ddirywiad pellach yn eu hiechyd meddwl ac, mewn rhai achosion, lleihau’r angen iddynt gael eu trin yn yr ysbyty a’u cadw yn yr ysbyty’n orfodol;
b) sicrhau bod pawb sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yng Nghymru yn cael cydgysylltydd gofal penodol ac yn cael cynllun gofal a thriniaeth, a bod gan bobl sydd wedi cael eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd fynediad i’r gwasanaethau hynny pan fyddant yn credu bod eu hiechyd meddwl yn dirywio;
c) ymestyn darpariaeth o wasanaethau eirioli iechyd meddwl y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol ar hyn o bryd?
2. Sut fydd y Mesur arfaethedig yn newid y trefniadau presennol, a beth fydd effaith y newidiadau hynny?
3. A yw adrannau’r Mesur arfaethedig yn briodol o ran cyflawni’r amcanion a nodir?
Wrth ystyried y cwestiwn hwn, mae’n bosibl y byddwch am ystyried natur rhai darpariaethau yn y Mesur arfaethedig sy’n:
a) sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd meddwl sylfaenol yn cael eu darparu ledled Cymru gan fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol, drwy weithio mewn partneriaeth (rhan 1, adrannau 1-10);
b) sicrhau bod cynllun gofal a thriniaeth ar gael i unigolion sy’n cael gofal iechyd meddwl eilaidd (rhan 2, adrannau 11-17 );
c) sicrhau bod gan cyn-ddefnyddwyr y gwasanaeth hawl i gael asesiad gan ddarparwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd dan amgylchiadau arbennig (rhan 3, adrannau 18-28);
d) sicrhau bod cynlluniau Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol ar gael i gleifion sy’n ddarostyngiedig i bwerau gorfodol Deddf Iechyd Meddwl 1983, a ‘chleifion anffurfiol’ (rhan 4, adrannau 29-37).
4. A oes rhwystrau posibl i roi darpariaethau’r Mesur arfaethedig ar waith (ac os oes, beth ydynt) ac a yw’r Mesur arfaethedig yn ystyried y rhain?
5. A oes gan y Mesur arfaethedig oblygiadau ariannol i’ch sefydliad, ac os oes, beth ydynt? Wrth ateb y cwestiwn hwn, mae’n bosibl y byddwch am ystyried Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol), sy’n amcangyfrif cost a budd rhoi’r Mesur arfaethedig ar waith.
6. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar adrannau penodol o’r Mesur arfaethedig?
