Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
Mesur arfaethedig y Llywodraeth a gyflwynwyd gan Huw Lewis AC, y Dirprwy Weinidog dros Blant.
Y Mesur arfaethedig
Diben y Mesur arfaethedig hwn yw gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru a’r Prif Weinidog i roi sylw dyledus i'r hawliau a'r rhwymedigaethau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (y Confensiwn) a'i Brotocolau Dewisol, wrth wneud penderfyniadau strategol am sut i arfer swyddogaethau sy'n arferadwy ganddynt.
Cyfnod presennol y Mesur
Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 16 Marwth 2011. Mae’r Mesur arfaethedig erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).
Cofnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
Cyfnod |
Dyddiad |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
* Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5
Gwybodaeth berthnasol
Cewch ragor o wybodaeth am y Mesur hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.
Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny:
Ymgynghoriad Cyhoeddus
Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ymgynghori ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), sydd bellach wedi cau ar 27 Awst 2010:
Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1
Cyflwynodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ar 22 Hydref 2010.
Adroddiad Pwyllgor Cyfnod
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r ddadl ar y cyfnod cyntaf yng Nghyfarfod Llawn 2 Tachwedd 2010
Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 3 Tachwedd 2010 a ddaeth I ben ar 25 Tachwedd 2010. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn:
Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 3 ar 26 Tachwedd 2010 a ddaeth I ben ar 18 Ionawr 2011. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn:
Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig:
Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion 18 Ionawr 2011