Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mesur ynghylch Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Mesur Arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Diben y Mesur Arfaethedig yw

Bydd y Mesur arfaethedig yn darparu ar gyfer cyflwyno cyfundrefn codi tâl newydd a fydd yn sicrhau bod awdurdodau lleol ar draws Cymru’n mabwysiadu dull gweithredu mwy cyson tuag at godi tâl ar ddefnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl. Yn bennaf, bydd cwmpas y Mesur arfaethedig yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu, mewn is-ddeddfwriaeth ac mewn canllawiau, fanylion fframwaith codi tâl tecach a mwy cyson i awdurdodau lleol ei fabwysiadu.

Cofnod o Daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynod Dyddiad
Cyflwyno’r Mesur 29 Mehefin 2009
Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol* 7 & 14 Gorffennaf 2009
24 Medi 2009
1, 8 & 22 Hydref 2009
Cyfnod 1 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol 10 Tachwedd 2009
Cyfnod 2 – Pwyllgor yn ystyried y diwygiadau * 3 Rhagfyr 2009
Cyfnod 3 – Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y diwygiadau 19 Ionawr 2010
Cyfnod 4 – Pasio’r Mesur yn y Cyfarfod Llawn 19 Ionawr 2010
Dyddiad Cymeradwyaeth Frenhinol 17 Mawrth 2010

* Y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5

Y Mesur Arfaethedig a'r Memorandwm Esboniadol

Mesur Arfaethedig ynghylch Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) (PDF, 79KB) fel y'i cyflwynwyd ar 29 Mehefin 2009 a Memorandwm Esboniadol.

Datganiad rhagarweiniol gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 30 Mehefin 2009

Mesur Arfaethedig ynghylch Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru), fel y'i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2 (PDF, 201KB) (Caiff y gwelliannau i’r Mesur ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen. Lle bynnag y bo’n bosibl, defnyddir y rhifau gwreiddiol ar gyfer y darpariaethau a oedd yn y Mesur fel y’i cyflwynwyd).

Mesur Arfaethedig ynghylch Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru), fel y'i pasiwyd (PDF, 193KB)

Mae'r Mesur wedi’i gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 17 Mawrth 2010.

Y Pwyllgor - Cyfnod 2

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 wedi ystyried trafodion Cyfnod 1 a Cyfnod 2 y Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru)

Aelodaeth y Pwyllgor

Agendâu, Papurau a Thrawsgrifiadau (7 Gorffennaf - 3 Rhagfyr 2009)

Cyfnod 1

Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny:

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ymgynghori ar y Mesur arfaethedig ynghylch Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) sydd bellach wedi cau.
Galwad am Dystiolaeth (PDF, 45KB)
Galwad am Dystiolaeth (HTML)

Gellir gweld yr ymatebion a dderbyniwyd yn yr ymatebion ymgynghoriad a dderbyniwyd.

Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol

Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar y Cyfnod Cyntaf (PDF, 632KB) ar 3 Tachwedd 2009.

Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunod y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r ddadl ar y cyfnod cyntaf y Cyfarfod Llawn (PDF) ar 10 Tachwedd 2009.

Eitemau Newyddion Cysylltiedig

Mae’r cynnig i gael gwared ar y loteri cod post ar gyfer gofal cymdeithasol yn dal i beri pryder, 3 Tachwedd 2009

Rhoi diwedd ar y loteri cod post mewn perthynas â ffioedd am ofal cartref – mynegwch farn ar ddeddfwriaeth arfaethedig newydd, 8 Gorffennaf 2009

Cyfnod 2

Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl.

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 11 Tacwedd 2009. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn Gwelliannau Cyfnod 2.

Cyfnod 3

Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:

Dechreuodd Cyfod 3 ar 4 Rhagfyr 2009.  Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn: Gwelliannau Cyfnod 3.

Cyfnod 4

Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig.

Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion Cyfnod 4 ar 19 Ionawr 2010.

Mesur Arfaethedig ynghylch Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru), fel y'i pasiwyd (PDF, 193KB)