LC5(3)-Social Care Charges - Call for Evidence

Bae Caerdydd / Cardiff Bay

Caerdydd / Cardiff  CF99 1NA

7 July 2009

Annwyl Syr / Madam

Ymgynghoriad ar y Mesur arfaethedig ynghylch codi ffioedd am ofal cymdeithasol (Cymru)

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am dystiolaeth mewn perthynas ag egwyddorion cyffredinol y

M

esur arfaethedig ynghylch codi ffioedd am ofal cymdeithasol

a gynigiwyd

gan Lywodraeth Cymru ar 29 Mehefin 2009 (y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw 28 Awst 2009).

Beth yw Mesur?

Darn o ddeddfwriaeth a wneir gan y Cynulliad yw Mesur. Mae iddo effaith debyg i

Ddeddf Seneddol. Gall y Cynulliad basio Mesurau ar unrhyw 'fater’ sydd o fewn ei gymhwysedd deddfwriaethol (yn unol â’r hyn restrir yn

A

todlen 5

i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.). Mae’r Mesur arfaethedig ynghylch codi ffioedd am ofal cymdeithasol (Cymru) yn seiliedig ar y cymhwysedd deddfwriaethol a roddwyd i’r Cynulliad yn dilyn y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Gofal Cartref (Mehefin 2008) mewn perthynas â materion sy’n gysylltiedig â/ag xx.

Tra bod Mesur yn mynd trwy'r Cynulliad, fe'i elwir yn 'Fesur arfaethedig’.

Mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur arfaethedig. Yn ystod Cyfnod 1, mae’r pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig (gan gymryd tystiolaeth ysgrifenedig gan bartïon sydd â diddordeb a rhanddeiliaid - sef pwrpas y llythyr hwn - a chymryd tystiolaeth lafar) ac mae'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny.

Beth mae’r Mesur arfaethedig am ei gyflawni?

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Mesur arfaethedig yn datgan:

"Prif swyddogaeth y Mesur arfaethedig ynghylch Ffioedd am Ofal Cymdeithasol (Cymru) ("y Mesur”) yw galluogi a grymuso. Bydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru nodi, mewn is-ddeddfwriaeth ac mewn canllawiau, fanylion fframwaith tecach, mwy cyson i awdurdodau lleol eu mabwysiadu wrth godi ffioedd ar ddefnyddwyr gwasanaethau unigol am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl.”  

Beth yw rôl y pwyllgor?

Rôl Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig a chyflwyno adroddiad arnynt. Wrth wneud hyn, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i weithio o fewn y fframwaith a ganlyn:

I ystyried:

i) Yr angen am Fesur arfaethedig i gyflawni’r amcanion isod:

  • cyflwyno trefn newydd ar gyfer codi ffioedd a fydd yn sicrhau bod awdurdodau lleol ledled Cymru yn mabwysiadu dull mwy cyson o godi ffioedd ar ddefnyddwyr gwasanaethau am ofal cymdeithasol dibreswyl;
  • sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a fydd yn caniatáu i ddarpariaethau manwl gael eu nodi gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a chanllawiau statudol i’w llunio o dan y Mesur, gan ymdrin â’r mathau o wasanaethau na ellir codi ffioedd amdanynt neu grwpiau’r cleientiaid na ellir codi ffioedd arnynt, y ffi safonol neu uchaf a’r broses asesu ariannol (profion modd);

  • sefydlu dull clir a chyson mewn perthynas â’r wybodaeth y mae  defnyddwyr yn ei chael gan awdurdodau lleol am eu ffioedd a’r ffordd y caiff ceisiadau i’w hadolygu eu trin.

ii) y darpariaethau allweddol a nodir yn y Mesur arfaethedig ac a ydynt yn briodol er mwyn sicrhau y caiff ei amcanion datganedig eu cyflawni;

iii) rhwystrau posibl i weithredu’r darpariaethau allweddol ac a yw’r Mesur arfaethedig yn eu hystyried;

iv) safbwyntiau rhanddeiliaid y bydd rhaid iddynt weithio o dan y trefniadau newydd.

Sut y gallwch helpu - y cwestiynau ymgynghorol

Ceir manylion y Mesur arfaethedig a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ef ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol yn:

h

ttp://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-scc-2.htm

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o graffu ar y Mesur arfaethedig. Yn arbennig, byddai’n croesawu eich sylwadau ar y pwyntiau a restrir yn Atodiad 1.

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad i a

pslegislationcommitteeNo5@wales.gsi.gov.uk

a rhowch "Ymgynghoriad - y Mesur arfaethedig ynghylch codi ffioedd am ofal cymdeithasol” fel pennawd i’r e-bost.

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Olga Lewis, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, Y Swyddfa Ddeddfwriaeth. Cynulliad

Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 28 Awst 2009. Efallai na fydd yn bosibl ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses ddeddfwriaethol yn:

h

ttp://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-legislation-guidance/bus-legislation-guidance-measures.htm

 

Wrth baratoi eich tystiolaeth, dylech ystyried y pwyntiau a ganlyn:

  • dylai eich ymateb fynd i’r afael â’r materion sydd gerbron y Pwyllgor.

Defnyddiwch y pennawd uchod fel cyfeirnod i’ch ymateb;

  • nodwch a ydych yn ymateb ar ran sefydliad, neu fel unigolyn;

  • bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel arfer yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar gael i’r cyhoedd graffu arnynt ac efallai y bydd

Aelodau’r Cynulliad yn eu gweld a’u trafod yn ystod cyfarfodydd pwyllgorhefyd.

  • Os nad ydych am i ni gyhoeddi eich ymateb neu’ch enw, mae’n bwysig eich bod yn nodi hyn yn glir wrth gyflwyno’ch tystiolaeth ynghyd â’r rhesymau dros hyn. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na fydd y Pwyllgor yn rhoi’r un pwyslais arno pan fydd yn ystyried y dystiolaeth. Dylech hefyd fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl y bydd y wybodaeth a roddwyd gennych mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth am gwmni, yn cael ei gyhoeddi neu’i ddatgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000;  

  • nodwch a fyddech yn barod i roi tystiolaeth ar lafar i’r Pwyllgor.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig yn ystod tymor yr hydref.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch ag Anna Daniel, Clerc y Pwyllgor ar 029 2089 8144 neu Olga Lewis, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, ar 029 2089 8155.

Yn gywir,

Mark Isherwood AC
Cadeirydd y Pwyllgor

Atodiad 1

Mesur Arfaethedig ynghylch Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru): Cwestiynau ymgynghori

1. A oes angen gwneud deddfwriaeth i sicrhau bod awdurdodau lleol ledled Cymru yn mabwysiadu dull mwy cyson o godi ffioedd ar ddefnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl, ac os oes, pam?

2. A yw adrannau’r Mesur arfaethedig yn briodol o ran diwygio deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r drefn godi ffioedd am wasanaethau gofal cymdeithasol? Os na, ym mha ffordd mae angen newid y Mesur arfaethedig?

Wrth ystyried y cwestiwn hwn, efallai y bydd ymgyngoreion am  ystyried natur darpariaethau’r Mesur arfaethedig a fanylir isod:

(a) wrth ystyried beth sy’n ffi resymol am wasanaeth, rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru a fyddai’n rheoli neu’n pennu uchafswm y ffi (Adran 2);

(b) y pŵer a roddir i Weinidogion Cymru nodi mewn rheoliadau pa gategorïau o bersonau, gwasanaethau neu gyfuniad o wasanaethau a eithrir rhag gosod ffi ynglŷn ag hwy (Adran 3);

(c) hawl defnyddwyr gwasanaethau i gael asesiad modd ac i unrhyw ffi am wasanaethau gael ei bennu yng ngoleuni’r asesiad hwnnw (Adran 4);

(d) y gofyniad ar awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth am ffioedd a phrofion modd (Adran 5);

(e) yr hawl i wneud cais am adolygiad o benderfyniadau i godi ffioedd a’r pŵer a roddir i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â’r broses hon (Adran 6);

(f) y gwasanaethau gofal dibreswyl y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddynt (Adran 7);

3. Sut y bydd y Mesur arfaethedig yn newid yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud ar hyn o bryd a beth fydd effaith newidiadau o’r fath, os o gwbl?

4.   Beth yw’r rhwystrau posibl o ran gweithredu darpariaethau’r Mesur arfaethedig (os o gwbl) ac a yw’r Mesur arfaethedig yn eu hystyried?

5.   Beth yw goblygiadau ariannol y Mesur arfaethedig i sefydliadau, os o gwbl? Wrth ateb y cwestiwn hwn, efallai yr hoffech ystyried Adran 2 y Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol), sy’n amcangyfrif costau a manteision gweithredu’r Mesur arfaethedig.

6. A oes cydbwysedd rhwng y darpariaethau a nodir yn y Mesur a’r pŵer a ddirprwyir i Weinidogion Cymru i nodi manylion y trefniadau diwygiedig ar gyfer codi ffïoedd mewn rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau statudol? A yw’r gweithdrefnau a fyddai’n gymwys i’r rheoliadau hyn yn briodol (negyddol neu gadarnhaol)?  (Gweler Rhan 1, adran 5 y Memorandwm Esboniadol - "Pŵer i lunio is-ddeddfwriaeth”).

7. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar adrannau penodol o’r Mesur arfaethedig?

Yn yr adran hon

    Partneriaid a Help