Mesur Gwastraff (Cymru) 2010

Mesur Arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Diben y Mesur arfaethedig

Mesur i wneud darpariaeth i leihau'r gwastraff a'r sbwriel a gynhyrchir yng Nghymru a chyfrannu at ddatblygu trefniadau mwy effeithiol o reoli gwastraff yng Nghymru

Cyfnod presennol y Mesur

Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Rhagfyr 2010. Mae’r Mesur arfaethedig erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).

Cofnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010

Cyfnod

Dyddiad

  • Cyflwyno’r Mesur arfaethedig

  • Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol*

  • Cyfnod 1 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

  • Cyfnod 2 – Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau *

  • Cyfnod 3 – Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

  • Cyfnod 4 – Pasio’r Mesur yn y Cyfarfod Llawn

  • Dyddiad Cymeradwyaeth Frenhinol

* Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4

Gwybodaeth berthnasol

Cewch ragor o wybodaeth am y Mesur hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.

|

Y Mesur Arfaethedig a'r Memorandwm Esboniadol

|
  • Cyfnod 1

Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny:

Ymgynghoriad Cyhoeddus
Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ymgynghori ar y

Mesur Arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru)

, sydd bellach wedi cau ar

23 Ebrill 2010

Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1

Cyflwynodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ar 25 Mehefin 2010.

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

Cytunod y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r dadl ar y cam cyntaf yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Gorffennaf 2010. Cytunodd y Cynulliad ar y Penderfyniad Ariannol ar 6 Gorffennaf 2010.

  • Cyfnod 2

Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl:

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 7 Gorffennaf 2010 a ddaeth I ben ar 30 Medi 2010. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn:

  • Cyfnod 3

Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:

Dechreuodd Cyfnod 3 ar 1 Hydref 2010 a ddaeth I ben ar 2 November 2010. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn:

  • Cyfnod 4

Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig:

Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion 2 Tachwedd 2010.

Partneriaid a Help