Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif.2
Legislation Committee No.2
Bae Caerdydd / Cardiff Bay
Caerdydd / Cardiff
CF99 1NA
Ymgynghori ar Fesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru)
16 Mawrth 2010
Annwyl Syr / Madam
1. Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am dystiolaeth mewn perthynas ag egwyddorion cyffredinol Mesur arfaethedig y Gymraeg (Cymru), a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar 4 Mawrth 2010.
Beth yw Mesur?
2. Darn o ddeddfwriaeth a wneir gan y Cynulliad yw Mesur. Mae iddo effaith debyg i Ddeddf Seneddol. Gall y Cynulliad basio Mesurau ar unrhyw ‘fater’ a restrir yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) yn ymwneud â mater 20 sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg.
3. Tra bod Mesur yn mynd drwy'r Cynulliad, fe'i gelwir yn ‘Fesur arfaethedig’.
4. Mae pedwar cyfnod yn y broses o ystyried Mesur arfaethedig. Yn ystod Cyfnod 1, mae’r pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig (gan gymryd tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar gan rai sydd â diddordeb a rhanddeiliaid), cynhelir dadl yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad ar yr egwyddorion hynny, ynghyd â phleidlais ynghylch a ddylid cytuno arnynt.
Beth mae’r Mesur arfaethedig am gyflawni?
5. Dyma ddarpariaethau allweddol y Mesur arfaethedig:
i) gwneud darpariaeth bellach ynglyn â statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru;
ii) sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg gyda swyddogaethau a phwerau i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, ac i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg;
iii) sefydlu Panel Cynghori’r Comisiynydd, a benodir gan Weinidogion Cymru, a fydd â rôl strategol o ran cynghori’r Comisiynydd ynglyn â materion polisi ehangach;
iv) diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg (ar ôl sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg);
v) gwneud darpariaeth ynglyn â safonau (i ddisodli cynlluniau yn y pen draw) yn ymwneud â’r Gymraeg, a allai gynnwys safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau gwneud polisïau, safonau gweithredu, safonau hybu a safonau cadw cofnodion. Y Comisiynydd, yn bennaf, fydd yn paratoi, yn gosod ac yn gorfodi’r rhain;
vi) gwneud darpariaeth ynglyn ag ymchwilio i ymyrraeth honedig â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg, a
vii) sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg – a fydd yn cynnwys Llywydd, aelodau lleyg a chyfreithiol – fel mecanwaith i apelio yn erbyn penderfyniad y Comisiynydd i orfodi safonau.
Beth yw rôl y Pwyllgor?
6. Rôl Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig a chyflwyno adroddiad arnynt. Wrth wneud hyn, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i weithio o fewn y fframwaith a ganlyn:
Ystyried:
i)yr angen am Fesur arfaethedig i gyflawni amcanion penodol Llywodraeth Cymru, fel y maent wedi’u nodi ym mharagraff 3.10 o’r Memorandwm Esboniadol, sef:
rhoi mwy o eglurder a chysondeb i siaradwyr Cymraeg o ran y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg;
lleihau’r gofynion gweinyddol a roddir ar y rhai sy’n rhwym wrth ddyletswyddau drwy symud y pwyslais oddi ar baratoi cynlluniau;
sefydlu system a fydd yn sicrhau bod y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn rhesymol ac yn gymesur;
mewn sectorau penodol, sicrhau cysondeb o ran y cyrff hynny sy’n rhwym wrth ddyletswyddau er mwyn sicrhau bod yr amodau’r un fath i bawb;
datblygu cyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru ac awdurdodau lleol Cymru mewn perthynas â hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn ehangach;
datblygu trefniadau gorfodi mwy effeithiol mewn perthynas ag unrhyw ddyletswyddau a gaiff eu gosod;
rhoi llais cryf ac annibynnol i’r Gymraeg drwy sefydlu Comisiynydd fel hyrwyddwr ac eiriolwr penodedig ar gyfer yr iaith;
gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â statws y Gymraeg; a
gwneud darpariaethau o ran ymchwilio i’r achosion hynny o ymyrryd â rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu â’i gilydd a chyflwyno adroddiadau ar yr achosion hyn.
ii) a yw’r Mesur arfaethedig yn cyflawni ei amcanion datganedig;
iii) y darpariaethau allweddol a nodir yn y Mesur arfaethedig ac a ydynt yn addas ar gyfer cyflawni’i amcanion;
iv) y rhwystrau posibl i’r broses o roi’r darpariaethau allweddol ar waith ac a yw’r Mesur arfaethedig yn ystyried y rhain;
v) barn rhanddeiliaid a fydd yn gorfod gweithio’n unol â’r trefniadau newydd.
Sut y gallwch chi helpu – cwestiynau’r ymgynghoriad
7. Mae manylion y Mesur arfaethedig a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig i’w gweld ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol yn: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-wl.htm
8. Hefyd, bydd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones AC, yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor ar 17 Mawrth ac mae’n bosibl y bydd trawsgrifiad y sesiwn honno’n ddefnyddiol o ran egluro darpariaethau’r Mesur arfaethedig ymhellach. Bydd ar gael yn ddiweddarach ym mis Mawrth ar wefan y Pwyllgor: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-wl.htm
9. Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo â’r gwaith o graffu ar y Mesur arfaethedig yng Nghyfnod 1. Yn benodol byddem yn croesawu’ch sylwadau ar y cwestiynau a restrir yn yr Atodiad sydd ynghlwm.
10. Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, a fyddech cystal ag anfon copi electronig at swyddfadeddfwriaeth@cymru.gsi.gov.uk gan roi’r teitl Ymgynghoriad – Mesur Arfaethedig y Gymraeg i’r neges e-bost.
11. Neu, gallwch ysgrifennu at:
Owain Roberts, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, Y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
12. Dylid anfon tystiolaeth erbyn 11 Mai 2010. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
13. Cewch ragor o wybodaeth am y broses ddeddfwriaethol yn:
14. Wrth baratoi’ch ymateb, dylech ystyried y pwyntiau a ganlyn:
dylai’ch sylwadau fynd i’r afael â’r materion sydd gerbron y Pwyllgor. Defnyddiwch y pennawd uchod fel cyfeirnod i’ch sylwadau;
bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel arfer yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar gael i’r cyhoedd graffu arnynt ac mae’n bosibl y bydd Aelodau’r Cynulliad yn eu gweld ac yn eu trafod yn ystod cyfarfodydd pwyllgor hefyd;
nodwch a ydych yn ymateb ar ran sefydliad, neu fel unigolyn;
nodwch a fyddech yn barod i roi tystiolaeth ar lafar i’r Pwyllgor.
Os nad ydych am i ni gyhoeddi eich ymateb neu’ch enw, mae’n bwysig eich bod yn nodi hynny’n glir wrth gyflwyno’ch tystiolaeth.
Yn yr achosion hyn, fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol na fydd y Pwyllgor, o bosibl, yn rhoi cymaint o bwys ar y dystiolaeth. Dylech hefyd fod yn ymwybodol y gellir cyhoeddi neu ddatgelu’r wybodaeth yn eich ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth am gwmni, yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. O gofio hyn, byddai’n ddefnyddiol pe baech yn gallu esbonio pam rydych am i’r wybodaeth fod yn gyfrinachol. Os cawn gais i ddatgelu gwybodaeth byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn eich sicrhau y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n gyfrinachol ym mhob achos;
15. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig yn ystod tymor yr haf.
16. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â Gareth Williams, Clerc y Pwyllgor ar 20898008 neu Owain Roberts, y Dirprwy Glerc ar 029 20898101.
Yn gywir
Val Lloyd AC
Cadeirydd y Pwyllgor
Atodiad
Cwestiynau’r ymgynghoriad
1. A oes angen Mesur arfaethedig i gyflawni’r amcanion datganedig a ganlyn (fel y maent wedi’u nodi ym mharagraff 3.10 o’r Memorandwm Esboniadol):
rhoi mwy o eglurder a chysondeb i siaradwyr Cymraeg o ran y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg;
lleihau’r gofynion gweinyddol a roddir ar y rhai sy’n rhwym wrth ddyletswyddau drwy symud y pwyslais oddi ar baratoi cynlluniau;
sefydlu system a fydd yn sicrhau bod y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn rhesymol ac yn gymesur;
mewn sectorau penodol, sicrhau cysondeb o ran y cyrff hynny sy’n rhwym wrth ddyletswyddau er mwyn sicrhau bod yr amodau’r un fath i bawb;
datblygu cyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru ac awdurdodau lleol Cymru mewn perthynas â hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn ehangach;
datblygu trefniadau gorfodi mwy effeithiol mewn perthynas ag unrhyw ddyletswyddau a gaiff eu gosod;
rhoi llais cryf ac annibynnol i’r Gymraeg drwy sefydlu Comisiynydd fel hyrwyddwr ac eiriolwr penodedig ar gyfer yr iaith;
gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â statws y Gymraeg; a
gwneud darpariaethau o ran ymchwilio i’r achosion hynny o ymyrryd â rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu â’i gilydd a chyflwyno adroddiadau ar yr achosion hyn.
2. A yw’n hawdd deall goblygiadau ymarferol y Mesur arfaethedig i’ch sefydliad? Rhowch resymau dros eich ateb.
3.Yn amodol ar unrhyw ateb mewn perthynas â chwestiwn 2, sut fydd y Mesur arfaethedig yn newid yr hyn y mae’ch sefydliad yn ei wneud ar hyn o bryd a pha effaith gaiff y newidiadau hyn?
4. A yw adrannau’r Mesur arfaethedig yn briodol o ran cyflawni’r amcanion datganedig?
Wrth ystyried y cwestiwn hwn, mae’n bosibl y byddwch am ystyried natur y darpariaethau yn y Mesur arfaethedig sy’n:
a) gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â statws swyddogol y Gymraeg (adran 1).
b) sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg a’i swyddogaethau (adrannau 2-21).
c) sefydlu Panel Ymgynghori Comisiynydd y Gymraeg (adrannau 22-23).
ch) sefydlu system newydd ar gyfer rhoi dyletswyddau ar bobl o ran y Gymraeg ar ffurf safonau (adrannau 24-69)
d) sefydlu trefniadau i ganiatáu i’r Comisiynydd ymchwilio i achosion o fethu â chydymffurfio â safonau (adrannau 70-99)
dd) gwneud darpariaeth am y rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg (adrannau 100-108).
e) sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg (adrannau 109-124).
f) ymwneud ag unplygrwydd y Comisiynydd a’r Dirprwy Gomisiynydd (adrannau 125 -133)
ff) diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg, trosglwyddo swyddogaethau i’r Comisiynydd a disodli Cynlluniau Iaith Gymraeg â safonau (adrannau 134 - 138).
g) gwneud y darpariaethau atodol (adrannau 139 – 146)
5. A oes rhwystrau posibl i roi darpariaethau’r Mesur arfaethedig ar waith (ac os oes, beth ydynt) ac a yw’r Mesur arfaethedig yn ystyried y rhain?
6. A oes gan y Mesur arfaethedig oblygiadau ariannol i’ch sefydliad, ac os oes, beth ydynt? Wrth ateb y cwestiwn hwn, mae’n bosibl y byddwch am ystyried Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol), sy’n amcangyfrif cost a budd rhoi’r Mesur arfaethedig ar waith.
7. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar adrannau penodol o’r Mesur arfaethedig?
