Cyf: MB-005
Mesur arfaethedig ynghylch Prydau Ysgol Iachach
Gwybodaeth cyn y balot
Jenny Randerson
Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig
1. Mae’r maeth sydd mewn prydau ysgol wedi bod yn destun pryder ers peth amser. Ni ddylem ganolbwyntio ar fwyd sy’n hawdd ac yn gyflym ei baratoi i blant. Yn hytrach, dylem eu hannog i ddysgu mwy am fwyd a rhoi bwyd iach iddynt a fydd yn eu helpu i ddysgu.
Bydd y Mesur hwn yn cyflwyno safonau maeth newydd ar gyfer prydau ysgol, ar sail arfer gorau ac ymchwil, a fydd yn rhoi o leiaf draean o’u hanghenion maeth i blant.
Bydd yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau addysg i sicrhau bod prydau a ddarperir mewn ysgolion yn cydymffurfio â rheoliadau maeth sy’n sicrhau y darperir pryd sy’n rhoi tua thraean o anghenion maeth dyddiol plentyn iddo.
Caniatáu i awdurdodau addysg bennu bwydydd neu ddiodydd penodol nad ydynt yn bodloni’r rheoliadau maeth er mwyn gallu eu gwahardd o’r ysgol.
Daw’r Mesur hwn o dan fater 5.9, felly mae eisoes o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.
Y Gefnogaeth a dderbyniwyd/Ymgynghoriad
2. Ymgynghoriad: ymgynghorwyd yn helaeth ar ‘Blas am Oes’, sef adroddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru a bydd y Mesur hwn yn ymgorffori llawer o’i argymhellion. Mae Senedd/Gweithrediaeth yr Alban wedi cyflwyno Deddf sy’n gorgyffwrdd â’r cynnig hwn yn sylweddol a gellir dysgu llawer oddi wrthi o ran y manylion.