Cyf: MB-006

Mesur arfaethedig ynghylch Addysg Llythrennedd Ariannol

Gwybodaeth cyn y balot

Lorraine Barrett

Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig

1. Cyflwyno pwnc sy’n canolbwyntio ar lythrennedd ariannol a rheoli cyllideb fel elfen orfodol o addysg lefel TGAU, neu lefel gyfatebol, ar gyfer pob disgybl sy’n astudio yng Nghymru. Diben cyffredinol y Mesur hwn yw paratoi disgyblion ar gyfer bywyd gwaith a’r cyfrifoldebau ariannol sy’n gysylltiedig â hyn, neu er mwyn sicrhau eu bod yn rheoli arian yn well wrth ymgymryd â chyrsiau addysg bellach ac addysg uwch. Bydd y pwnc yn canolbwyntio ar reoli cyllideb, gan gynnwys pynciau fel cyflogaeth, slipiau cyflog a threth; morgeisi, benthyciadau a chyfraddau llog; banciau, cyfrifon cynilo a phensiynau; dyled a biliau cyfleustodau a materion ariannol sy’n ymwneud ag addysg bellach a hyfforddiant. Er bod y pwnc hwn yn orfodol, ni chaiff ei achredu na’i brofi. Ar sail y cofrestri presenoldeb, bydd disgyblion yn derbyn tystysgrif pasio ar ôl cwblhau. Disgwylir i’r pwnc hwn fod yn rhan o ddatblygiad personol cyffredinol disgybl yn ystod ei flynyddoedd olaf mewn addysg orfodol, ac ni fydd yn effeithio ar yr amser astudio a ddyrennir i bynciau craidd. Nodiadau: Caiff y Mesur Cynulliad hwn ei wneud o dan fater 5.4

Y gefnogaeth a dderbyniwyd/ymgynghoriad

2. Dim

Partneriaid a Help