Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: MB-009

Mesur arfaethedig ynghylch Prydau Ysgol

Gwybodaeth cyn y balot

Ann Jones

Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig

1. Dan Faes 5.9. Addasu a symleiddio’r meini prawf a ddefnyddir i bennu pa blant yng Nghymru sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Sefydlu cynllun peilot i ddarparu prydau ysgol am ddim yn gyffredinol ym mhob ysgol y mae canran sylweddol (mae’r union ganran eto i’w phennu) o’u dalgylch mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Bydd y mesur hefyd yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau addysg i gymryd camau i beidio â datgelu pwy yw’r rheini sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.

Y Gefnogaeth a dderbyniwyd/Ymgynghori

2. Disgwylir i’r mesur hwn gael ei gefnogi gan y Grwp Gweithredu Tlodi Plant ymysg eraill.