Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: MB-011

Mesur arfaethedig ynghylch Cau Ysgolion (Ymgynghori a Chategorïau)

Gwybodaeth cyn y balot

Peter Black

Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig

Byddai’r mesur hwn:

  • i) Yn creu categori newydd o ‘amalgameiddio’ ochr yn ochr â chau er mwyn hwyluso uniad dilys rhwng ysgolion (er enghraifft, ysgol fabanod ac ysgol iau yn ysgol gynradd), gan osgoi rhai o’r camau sydd eu hangen ar gyfer cau ysgol yn llwyr;
  • ii) Yn gofyn bod awdurdodau lleol, cyn dechrau unrhyw broses ymgynghori a allai arwain at gau ysgol, yn ystyried ac yn cyhoeddi effaith cau’r ysgol ar y gymuned; a’r dibenion cymunedol y gellid eu cyflawni mewn adeilad ysgol a gaewyd;
  • iii) Yn gofyn bod awdurdodau lleol yn ymgynghori gyda phob rhanddeiliaid, gan gynnwys pob gweithiwr addysg proffesiynol a phobl broffesiynol eraill, y rheini sy’n cynrychioli cymunedau lleol a’r rhieni a’r plant presennol yr effeithir arnynt (a, lle byddai hynny’n bosibl, rhai’r dyfodol), gan gynnwys y rheini mewn ysgolion cyfagos.

Y Gefnogaeth a dderbyniwyd/Ymgynghori

Mae hwn yn ymateb ymarferol i sylwadau a dderbyniwyd gan y Cynulliad, fel corff, a chan aelodau unigol i sawl cynnig i gau ysgolion ledled Cymru dros yr 8 mlynedd diwethaf.