Mesur arfaethedig ynghylch Gwasanaethau Ieuenctid
Gwybodaeth cyn y balot
Peter Black
Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig
Creu Porth Cyfle i bobl ifanc er mwyn cynyddu ymhellach eu cyfleoedd i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas.
Yn rhy aml o’r hanner, bydd pobl ifanc yn cael eu pardduo, mae angen i ni eu hannog i wireddu eu potensial, eu helpu a’u cefnogi i wneud y gorau o’u galluoedd a darparu’r cyfleoedd sydd eu hangen i alluogi iddynt wneud hynny.
Polisi allweddol i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial a chael mynediad at gyfleoedd fyddai rhoi sail statudol i’r ddarpariaeth gwasanaethau ieuenctid. Golygai hynny y byddai’n rhaid i awdurdodau lleol ateb y galw ymhlith pobl ifanc am gyfleusterau hamdden ac addysgol er mwyn eu cael oddi ar y stryd ac i gysylltiad adeiladol â’i gilydd ac â’u cymunedau.
Daw’r mesur hwn dan fater 5.8 ac felly mae eisoes o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.
Y Gefnogaeth a dderbyniwyd/Ymgynghori
Ni chafwyd cefnogaeth ac ni chynhaliwyd ymgynghoriad.
