Y Mesur Arfaethedig ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Bwlio.
Gwybodaeth cyn y balot
Mick Bates
Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig
Bwriad y Mesur hwn yw meithrin cysylltiadau gwell rhwng ysgolion a rhieni i ddatblygu strategaethau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a bwlio mewn ysgolion.
Mae bwlio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblemau difrifol a all rwystro datblygiad addysgol a chymdeithasol plentyn yn yr ysgol. Drwy sicrhau bod rhieni, plant a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill yn cymryd rhan drwy sefydlu cytundeb gyda’r ysgol y bydd y plentyn yn ymddwyn mewn ffordd briodol, byddwn yn gallu mynd i’r afael ag un o’r materion mwyaf sy’n wynebu plant mewn ysgolion ledled Cymru. Yn ogystal ag amddiffyn y plant hynny sy’n cael eu bwlio, bydd y Mesur yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r rhesymau y caiff disgyblion eu gwahardd o’r ysgol, cyn iddi fod yn rhy hwyr, yn ogystal â helpu i gryfhau’r berthynas gyda grwpiau lleiafrifoedd.
Daw’r mesur hwn dan fater 5.5 ac felly mae eisoes o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.
Y Gefnogaeth a dderbyniwyd/Ymgynghori
Ni chafwyd cefnogaeth ac ni chynhaliwyd ymgynghoriad.
