Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: MB-027

Mesur arfaethedig ynghylch Adeiladu Newydd Cynaliadwy

Gwybodaeth cyn y balot

Mick Bates

Braslun o’r Mesur arfaethedig

Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a gweithredu strategaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau newydd ddefnyddio ynni adnewyddadwy ar y safle i leihau gollyngiadau carbon deuocsid.

Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig

Ar hyn o bryd adeiladau sy’n gyfrifol am 46% o ddefnydd ynni’r DU. Yng Nghymru, mae’r ynni a ddefnyddir yn y sector domestig yn unig yn gyfrifol am dros 20% o gyfanswm y gollyngiadau carbon deuocsid.  

Golyga hyn mai'r ynni a ddefnyddir mewn adeiladau yw un o’r cyfranwyr mwyaf tuag at newid yn yr hinsawdd. Bydd y ffigur hwn yn parhau i godi oni bai ein bod yn cyflwyno polisi i leihau gollyngiadau carbon o adeiladau yn sylweddol er mwyn cyfrannu at y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.  

Bydd y mesur hwn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu a gweithredu strategaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob datblygiad newydd, gan gynnwys cartrefi yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn ogystal ag adeiladau cyhoeddus ac adeiladau'r Llywodraeth, ddefnyddio ynni adnewyddadwy ar y safle i leihau eu gollyngiadau carbon a chyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy y DU.

Daw’r mesur hwn dan fater 12.4 ac felly mae eisoes o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Cefnogaeth a dderbyniwyd

Mae’r mesur hwn unol ag ymrwymiad statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru i Ddatblygu Cynaliadwy dan Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru darged yng Nghynllun Gweithredu Microgynhyrchu 2007 i osod 30,000 o unedau trydan a gwres micro erbyn 2012 a 30,000 o'r cyfryw unedau erbyn 2020.

Hefyd, ddydd Mawrth 13 Chwefror 2007, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ddatganiad polisi yn amlinellu rhaglen weithredu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Roedd y rhaglen hon yn cynnwys cyflawni lefelau carbon sero ar gyfer pob adeilad newydd erbyn 2011.